Gyda llawer ebychiad o 'Ie, ie, rwy'n cofio Nhad yn dweud,' a 'Dyna oedd y stori glywes i gyda Mam, druan,' gwrandawyd arno'n rhestru gweithredoedd y tadau.
Chwerthin nes i pan glywes i am hyn gynta, meddai Gareth.
'Fe glywes i sôn am ryw fachgen oedd yn gallu dilyn llwybr trwy daflu pêl hud o'i flaen.'
Ac fe glywes am un boi o Abertawe a gerfiodd garreg fedd iddo fe'i hunan, ond dyma'r tro cynta i fi glywed am ddyn yn talu am gerflun mamor ohono fe'i hunan ac a i ddim i geisio'i ddisgrifio fe, dim ond gweud i fod e'n od o debyg i Madog - yr un pen moel, yr un osgo, a bid siŵr, yr un drwyn.