Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

glywsai

glywsai

Y parthau hynny a roes Daniel Owen i ni wedi'r cyfan ac ni raid amau ar ôl darllen eu gwaith fod yr Ifansiaid, ganrif wedi ei farw, yn dal mewn cyswllt â'r Gymraeg a glywsai ef yn feunyddiol.

Gwelsom Mr Jones, Dolwar, yn croesi'r cae â phâl yn ei law, wedi bod yn chwilio am ddiferyn o ddŵr i'w ddiadell, ac yr oedd honno'n ei ddilyn gan frefu mor daer â'r hydd a glywsai'r Salmydd gynt yn brefu am yr afonydd dyfroedd.

Clywsai fod y Toriaid o blaid Ysgrifennydd i Gymru a Llafur o blaid Cyngor, ond anodd oedd credu'r hyn a glywsai, o gofio am wrthwynebiadau diweddar y pleidiau hyn.

Cofiodd am yr holl straeon ysbryd a glywsai erioed.

John Williams, Brynsiencyn, bregeth Penry Evans ar 'Iesu yn rhodio ar y Môr' a glywsai pan oedd yn efrydydd yng Ngholeg y Bala.

Er pan glywsai am fwriad John Edmunds i ddathlu sefydlu hunan-lywodraeth yn yr harbwr, ni buasai taw ar ei fremian, na wyddai'r cynghorydd y peth cyntaf am fywyd môr, mai dyn tir oedd o, o dras a diddordeb, mai esgus i gael ei weld oedd ei glochdar am gael dathliad yn yr harbwr am nad oedd sail i ddathlu dim arall yn y Porth.