Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gnawd

gnawd

'Roedd yn ddarlun o dristwch; ei gnawd yn oer, ei geg yn glafoeri, a'i lygaid mor bwl ddifywyd â llygad pysgodyn marw.

Dywed y trydydd pennill 'trydydd chwarter canrif ni wêl dy gnawd'; a derbyn mai angau yw'r 'trydydd carchar ac osgo'i gysgod arnad', yna pa 'larwm', pa ragargoel a gawsai SL.

Tra oedd y beirdd yn breuddwydio am gnawd a 'thrwsiad glana'r oesoedd' 'roedd y merched protestgar yn gwisgo gwisg wahanol iawn.

Nid boliau mawr yn hongian ar esgyrn di-gnawd yw unig arwyddion newyn.

Yn y spectrwm cenedlgarol yr oedd hefyd y math o dduwioldeb hiraethus a ddyheai am ymwared i'r bobl Iddewig ond a ymddiriedai nid mewn unrhyw fraich o gnawd ond, gan ddilyn Eseia a phroffwydi eraill, yn nerth ysbrydol yr Arglwydd.

Mi weles hefyd aberthu geifr dirifedi mewn puja i'r dduwies kali yn Shillong, a'r gwaed yn tasgu'n goch ar gnawd a dillad defosiynol gwþr a gwragedd a phlant ac aml-freichiau nadreddog y duwies ei hun.

..!" Yn olaf, cyn troi unwaith ac am byth at y drws, agorodd Morfudd y ddau fotwm uchaf ar ei choban wen er mwyn dangos rhyw fymryn pryfoclyd ar gnawd ei mynwes.

Daliai i droi'n wallgof wrth i'r bachyn fynd i mewn i'w gnawd wedyn.

Eglurodd Paul y gwahaniaeth yn fanylach na hyn yn ei ymadrodd cynnil, Nid yw pob cnawd unrhyw gnawd,' ac os metha'r cnawd yn ei ddyletswyddau yna fe syrth y dyn fel y blodeuyn yn ôl i'r pridd.

Wrth weld 'y fath olwg ddiafolaidd anifeilaidd' ar ei thad, teimlai Winni fel 'ei lindagu a gwasgu ei gnawd nes byddai yn sitrws fel tatws drwg wedi eu berwi i foch' (Haul a Drycin).

Bydd y dolennau heyrn yn seimlyd a thwym gan wres yr anifail, a byddwch yn ymdeimlo â meddalwch cynnes pêr ei gnawd wrth i chwi ymestyn i fachu'r aerwy ar yr hoelen yn y buddel.

Ysgrifennent lythyrau caru at ei gilydd; edrychai rhai carcharorion yn gariadus ar y bechgyn Borstal a gwyddai meddyg y carchar am y poenydio ar gnawd a'r dirdynnu ar gyrff.

Felly yr oedd dyfodiad y Gair yn gnawd dynol yn cyhoeddi fod Duw yn ailadrodd proses y creu.

Anesmwythodd y Cripil yn ei freichiau am fod gwres y tân yn ysu ei gnawd.

Ond y mae eneidiau ymhlith y beirdd, fel ymhlith eraill o blant dynion, sydd yn synhwyro rywsut nad yw'r llygad o gnawd yn gweld popeth sydd i'w weld, ac nad yw'r glust o gnawd yn clywed popeth sydd i'w glywed.

Haerai, hefyd, nad oedd y mab, erbyn meddwl, yn ddigon drwg i fod wedi cyflawni hunanladdiad, er ei fod yn ymddwyn yn od iawn ar adegau ac yn gweiddi fod llau yn torri allan drwy'i gnawd a bod rhywbeth o'i le ar ei ben.

Mae eu cnawd nhw'n rhy debyg i gnawd dynion.

Os nad oedd gen i broblema merchaid cyn cyrraedd mi fydda i'n gonyndrwm o gnawd ar ôl disgwl fy nhwrn.