'Gollon ni yn erbyn Llanelli ar Y Gnoll - gêm o'n i'n gobeithio ennill.
Bydd Tîm Datblygu Cymru yn chwarae'r Unol Daleithau nos yfory ar Y Gnoll, Castell Nedd, a mae'r tîm yn cynnwys Gavin Henson a Dwayne Peel yn safle'r haneri.
'Dim ond Caerdydd sydd wedi ennill lawr ar Y Gnoll y tymor hwn a mae carfan gref, ifanc 'da Castell Nedd.