Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gobeithiai

gobeithiai

Ond fydd neb yn poeni nad ydw i wrth y bwrdd bwyd gan fod llawer ohonom yn aros yn hwyrach yn y bync ar fore Sul am fod llai o waith i'w wneud." Gobeithiai y byddai'r capten yn sylweddoli'n weddol fuan ei fod ar goll.

Wrth roi pwyslais ar waith ac addysg law yn llaw, gobeithiai Che weld y 'Dyn Newydd' yn cael ei greu yng Nghuba.

Gobeithiai Jabas yn fawr na fyddai'n gwneud camgymeriad gan y byddai un gwyriad o'r sianel gul yn golygu rhwygo ochr y cwch yn grybibion.

'Wyt ti'n gwybod ble mae o?' 'Mae gen i syniad.' Gobeithiai Dei nad oedd y llall yn clywed y cryndod yn ei lais.

Gobeithiai gael cyfle arall i ddianc.

Gobeithiai na fyddai'n rhy drist yn y dawnsio cyn y Plygain, ond doedd dim dichon dweud y dyddiau hyn.

Wrth deithio i lawr yn y tren i Lundain gobeithiai Hector fod ei gyd- deithwyr yn canfod arno arwyddion teithiwr profiadol, ac yntau wedi gosod label 'PARIS' yn amlwg ar ei fag.

Gobeithiai a gweddi%ai y torrai ei wddf cyn machlud haul.

Gobeithiai eto fod golwg teithiwr profiadol arno wrth gamu i mewn i'r cerbyd a chyhoeddi mewn llais annaturiol o gadarn: 'Victoria.'

Gwyddai ei fod e yn ei chael hi'n ddeniadol a gobeithiai, ymhen amser, y tyfai'n hoff ohoni, ond credai na fyddai byth yn ei charu gan y cant : ddim ymhen deng niwrnod na deng mis na deng mlynedd.