Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gobeithio

gobeithio

Yn anffodus, fodd bynnag, rwy'n cael yr argraff nad yw'r rhan fwyaf yn fodlon rhoi cyfle i grwp hip hop fel y Tystion ac ni allaf ond gobeithio y bydd agwedd o'r fath yn newid cyn bo hir.

Maen nhw'n gobeithio y bydd pobol ifanc yn gofyn am help drwy yrru neges i jo@samaritans.org cyn y bydd hi'n rhy hwyr.

Pobl newydd ydych chwi, yn edrych ymlaen o hyd, yn gobeithio.

O ran Richard Dinsdale a Sion Bebb, roeddan nhw'n gobeithio chwaraer ddau ddiwrnod olaf - maen nhw un drosodd.

Ni allwn ond gobeithio na fydd yr hen Nessie yn tybio mai abwyd sydd yn y dwr ac yn neidio amdano.

Bydd Cymru yn gobeithio curo Samoa am y tro cynta mewn deuddeg mlynedd yn Stadiwm y Mileniwm yfory.

Maen' nhw'n deud imi fod arian da iawn i cael yn y Sywth yna." "Gobeithio 'wir, ond mae cimint yn cael i lladd yn y pyllau glo yna." "Mae digon o hynny yn y chwareli yma, petai hi'n mynd i hynny, a digon o bobol yn marw o'r diciâu." "Oes, digon gwir." "A dyna i chi siopau'r dre yna wedyn.

Gobeithio y bydd Mrs Alun Williams a Mr Andrew Angel yn hapus dros eu cyfnod ymarfer dysgu.

Yn wleidyddol, roedd y penwythnos yn llwyddiant mawr, a gobeithio y bydd yr ad-drefnu sy'n cael ei argymell yn y cynnig newydd yn ffordd i ni osod seiliau cadarn i'r ymgyrch angenrheidiol yma dros ddeddf iaith sy'n perthyn i'r ganrif hon.

Ond yr un ateb gaf i ran amlaf: 'Dim arian ar hyn o bryd; rydych eisoes wedi cymryd mwy na'ch siŵr.' Gobeithio y bydd gen i ddigon o arian i dalu am hwn.

Mae Julian yn gobeithio cydweithio a'r Cynulliad Cenedlaethol i drefnu dathliad o fwyd o Gymru yn ystod yr Wyl y flwyddyn nesaf.

Gobeithio y bydd yna gadoediad cyn i gyflafan ddigwydd.

Rydw i'n teimlo fy mod wedi dysgu llawer yn y dosbarthiadau yma, ac mi rydw i'n gobeithio y cofia' i rai, o leiaf, o'r pethau yma ac y byddant mewn rhyw ffordd yn help i mi ymhellach ymlaen mewn bywyd.

Mae yn aelod o'r Eglwys Bentecostaidd ym Mangor ac wedi cael ei derbyn fel aelod o'r ymgyrch Operation Mobilisation Love Europe sydd yn cysylltu ac yn cydweithio gyda'r Eglwysi yn Rwsia, ac yn gobeithio y bydd hyn yn gymorth iddi i gyrraedd ei nod o fod yn genhades.

"O'n i'n gobeithio y basa'r sgerbwd wedi sefyll am ddyddia' ond mi hitiodd hen siel Almaenig o yn ei gefn a'i chwalu."

Dim ond gobeithio fod rhywbeth gwerth ei weld ar ôl cyrraedd.

Maen nhw'n broffesiynol eu hagwedd a dydyn nhw'n rhoi dim byd i ffwrdd ac ynan gobeithio dwyn gôl - a rydan ni wedi gweld hyn droeon.

Roedd Adrian Dale, capten dros-dro Morgannwg, yn gobeithio gweld Northants yn batio am yr eilwaith yn olynol ond fe sgoriodd y tîm cartre 446 am saith cyn cau eu batiad ar ôl sicrhau y pedwar pwynt bonws.

Os penderfynir cyhoeddi, yr wyf yn gobeithio na bydd y sylwadau uchod yn dramgwyddus ac y byddant yn help i'r awdur.

"Rwy'n gobeithio codi a dyfnhau eu hymwybyddiaeth o genedligrwydd," meddai.

Gyda'r llain yn debygol o barhaun araf drwyr gêm fe fydd Essex yn gobeithio cyrraedd sgôr sylweddol yn ei batiad cyntaf.

Chum mawr i mi wyddost ti.' ''S'gin i ond gobeithio, Syr, y medrwch chi gysuro'i weddw o yn 'i hadfyd.' 'Paid ti â poeni am hynny, Obadeia Gruffudd.

Gobeithio bydd y ddau dîm yn cynnal y safon ddangoson nhw yng Nghwpan Heineken.

Un yno i geisio dal peth o gynnwrf digwyddiadau diweddar mewn ychydig dudalennau o brint, y llall yn gobeithio dysgu a chynnig help.

Gobeithio mai felly y bydd, ac y cofir am eleni fel y flwyddyn y cafodd Carnhuanawc ei ailorseddu yng nghof y genedl fel un o'i chymwynaswyr mawr.

Byddan nhw'n gobeithio am ragor heddiw.

Bellach, mae'n gobeithio y bydd cyflogwyr y dyfodol yn gallu gwahaniaethu rhwng y ddau.

Yr oedd trigolion Eifionydd hwythau'n gobeithio y byddai'r cynnwrf yn eu cyrraedd cyn bo hir.

'Gobeithio y byddan nhw'n iawn fel'na heb ole,' meddai ei fam wrth Dilwyn.

'Rwyn hapus bo fi wedi cael wiced a gobeithio daw un neu ddwy arall bore 'fory.

"Mae o wedi gofyn cwestiwn syml ichi, atebwch o wnewch chi?" "Rwy'n gobeithio nad ydych chi'n cael eich dylanwadu gan benboethiaid anaeddfed fel y ferch yma Alun," meddai'r twrnai.

Gobeithio fod y ffeithiau uchod yn cywiro'r camargraff a roed yn yr erthygl.

'Bydd yn neis i'w chwarae nhw a gobeithio y bydd yna groeso iddyn nhw ar y Vetch.

Bydd clwb y brif-ddinas yn gobeithio adeiladu ar eu buddugoliaeth ysgubol dros Bristol Rovers yng Nghwpan Lloegr ddydd Sul.

"Edrych arni'n cicio'i choesa'." "Gobeithio na wnaiff y pier 'ma ddim dechra cicio'i goes', 'te," meddai Joni.

Yn hwyrach heddiw mae rheolwr Abertawe, John Hollins, yn disgwyl cael gwybod a fydd cyn-ymosodwr Chelsea, Mark Stein, am ymuno âr clwb tra bod rheolwr Caerdydd, Billy Ayre, yn gobeithio arwyddo amddiffynnwr Colchester, David Greene.

"Gobeithio bod y pier 'ma'n saff," meddai wrth Sandra, gan graffu ar y coed dan ei draed.

Gobeithio mai rhagfarn yw hyn ar eu rhan.

Rwyn gobeithio, fel pawb arall, y bydda i yn y tîm, meddai ymosodwr Wimbledon, John Hartson.

A hithau wedi gobeithio am Fryste!

Pan bregethais y Traet~awd hwrl gyntaf yn gyhoeddus, Fy Nhafol oe~ B;n ysgrifcnny~ an, rhy fu~n, rnae'n debig, i'r Sawl oedd yn dywed, gofio a chynnwys y M~tter yn gryno: etto c~fodd Ef~ith ar Glu~tiau, ac (yr wyf yn gobeithio) ~r Galorm~u rai, fd y t~er ddymun~nt ei lrgr~phu.

Ac wrth estyn croeso nôl yn oedfa gyntaf Medi, Gwilym Haydn yn dweud fod e'n gobeithio fy mod i'n hoffi'r lliw, lliw meddai oedd yn adlewyrchu tymer y gweinidog yng nghwrdd eglwys mis Gorffennaf!

Yn y cyfamser, mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Kofi Annan, yn trefnu i gyfarfod y ddwy ochor ac yn gobeithio y gall llu rhyngwladol gadw golwg ar y sefyllfa.

Gobeithio byddwch yn teimlo'n well yn fuan.

Rydyn ni'n edrych ymlaen at flwyddyn nesa rwan a gobeithio cawn ni fynd fyny'n ôl yn syth.

Fyddwn i'n gobeithio bod llawer yn gwneud hynny o ddydd i ddydd mewn sawl swydd mewn sawl sefyllfa amrywiol ble mae'n hegwyddorion ni fel aelodau o'r Gymdeithas yn dod i wrthdrawiad a'n buddianau personol ni yn ein lle gwaith.

A sawl gwaith rym ni wedi gwrthod credu newyddion da, ac eto'n rhyw hanner gobeithio fod rhywfaint o wirionedd ynddynt.

(Os darllenir y llinellau hyn gan rywun, diamau yr ystyrir fi yn ffôl yn cofnodi pethau mor wirion.) Yr oeddwn yn gobeithio yr eisteddasai Dafydd yn hen gadair ddwyfraich Abel; ond ni wnaeth hynny, a chymerodd y gadair yr arferai efe eistedd arni pan oedd Abel yn fyw.

Rydyn ni'n gobeithio cael ymateb da i Benwythnos Sêr S4C, fel y gallwn ni gynllunio dewis ehangach a mwy amrywiol o deithiau yn y flwyddyn 2000, gan gynnwys, o bosibl, penwythnosau garddio a choginio gyda gwahanol gyflwynwyr S4C.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd y barnwr yn argymell fod rhaid newid y gyfraith," meddai.

Gobeithio bydd hyn yn bosib fel y gallwn ddechrau ar y gweithgareddau yn VIC I.

'Mae Sri Lanka wedi batio'n arbennig o dda ond ni wedi cadw mewn yn y gêm, a gobeithio, gyda'r bêl newydd bore 'fory, y medrwn ni gael wiced neu ddwy yn gynnar.

'Ia, Dei, un da am gellwair fuoch chi 'rioed.' "Does 'na neb o'r gangen wedi tramgwyddo, gobeithio?' 'Bobl annwyl nac oes.' 'Mae Sioned wedi bod yn brysur, meddai Lleucu fel pe bai'n egluro wrth blentyn.

Roedd Castell Nedd yn gobeithio gwneud iawn am golli i Gaerdydd ym munud ola ei gêm ddechrau'r tymor.

Rydyn ni'n edrych ymlaen am gêm galed yn erbyn Caerdydd - a gobeithio ennill.

Yr oeddwn wedi gobeithio cyflwyno'r adroddiad i'r cyfarfod hwn ond yn anffodus y mae'r Adran yn cael trafferthion gyda chael mynediad i bas data NOMIS, sef rhaglen meddalwedd "byw% sydd yn dal y wybodaeth.

Yn ôl gohebydd pêl-droed Radio Cymru, John Hardy, ar y Post Cyntaf, 'Mae Saunders yn teimlo mai dyma'r adeg i ymddeol o chwarae i Gymru, ond mae'n gobeithio cadw cysylltiad a'r tîm cenedlaethol drwy gynorthwyo ar yr ochr hyfforddi.

Ni bydd neb yn gallu hel at ei gilydd yr holl atgofion am Waldo y dylid eu cofnodi cyn iddi fynd yn rhy hwyr, ond gobeithio y bydd rhywun llafurgar yn ceisio'i wneud.

Ond yr un ateb gaf i ran amlaf: 'Dim arian ar hyn o bryd; rydych eisoes wedi cymryd mwy na'ch siâr.' Gobeithio y bydd gen i ddigon o arian i dalu am hwn.

Bydd y tîm dan 21 oed yn chwarae'n erbyn yr Wcrain y prynhawn yma, ac yn gobeithio rhoi terfyn ar eu record drychinebus o golli'n ddiweddar.

Mae Robbie Savage yn gobeithio chwarae ei gêm gynta i Leicester City ers iddo gael llaw-driniaeth i'w benglîn lai na thair wythnos yn ôl.

Lle bynnag y gesyd fy hanes teuluol dwi'n gobeithio fod rhyw gymaint o egwyddor a gweithredu uniongyrchol fy nghyndeidiau wedi gwaddodi yn fy ngwythiennau i.

'Rhywbeth na fedra i ddim gwneud mynydd mawr ohono, gobeithio,' meddai Rhian yn hapus, wrth dywallt gweddill y siampên i'r gwydrau.

Gobeithio nad wyt ti ddim yn dechre'r lol yna eto?

Yn Pwy Sy'n Cofio Siôn? cawn hanes Leni, cyflwynydd radio ifanc, sy'n gobeithio cychwyn gyrfa lwyddiannus wrth fynd ar drywydd y seren bop Siôn Tremthanmor.

Gobeithio felly eich bod wedi cael agoriad llygad o ran yr hyn y mae'r llyfrgell a'i staff yn ei gyflawni.

Tair blynedd yn ôl yr oedd Jaques Chirac yn gobeithio agor y drws i Wlad Pwyl, i Ungaria ac i'r Wladwriaeth Czech erbyn 2000.

Gobeithio.

Gobeithio y bydd cyfle i wneud hynny wrth ddefnyddio'r pecyn.

Rydw i'n gobeithio'n fawr," meddai wrthyf innau, "y bydd eich ysgrif chwi yn Y Gwyliwr yn help i'w ddarbwyllo fo." "Byth!" meddai Sam, yn bendant.

Melus Gybolfa (gobeithio!)

Yr oedd y rhai mwyaf dof ohonynt yn ddigon bodlon ar y drefn esgobol ac at ei gilydd yn parchu'r ddisgyblaeth eglwysig ond yn gobeithio y gwawriai diwrnod gwell cyn bo hir pan symudid y pethau a'u tramgwyddai.

Cofiwch ein bod ni dal ymlaen yn y pnawn ar hyn o bryd, a hynny am fis - gobeithio y gallwch chi wrando rhwng 3 a 5 bob pnawn.

Ac meddai Cadeirydd Is-bwyllgor Cymru, Dilwen Phillips, 'Rydym yn gobeithio y bydd yr ymgyrch yn helpu i wella ffyrdd o fyw a gwella arferion bwyta ein haelodau ac y bydd rhai arferion da yn cael eu trosglwyddo i deuluoedd a ffrindiau'.

Drwy adnabod y meddwl a'r dychymyg hwn y down i adnabod yn llawnach y bobl y buwyd yn eu trafod yn y Rhan Gyntaf; gobeithio hefyd y down i'n hadnabod ein hunain yn well o ganlymad i hynny.

Onid y cwmniau a oedd yn gobeithio gwneud ceiniog mor sydyn o'r fenter a ddylai ysgwyddor gost a a sefyll eu colled.

'Gollon ni yn erbyn Llanelli ar Y Gnoll - gêm o'n i'n gobeithio ennill.

Roedd Pamela'n gobeithio'i fod wedi newid ei ddull o fyw, ond fe'i siomwyd.

A gobeithio y byddaf innau wedi medru cael gwared ag o leiaf olwyn yrru un o'r bwsiau deulawr 'na erbyn hynny!

Fe aeth yntau oddi wrth ei wobr at ei waith, a chynhyrchu dwy nofel boblogaidd arall - Pan Ddaw'r Machlud ac Oed Rhyw Addewid, a gobeithio nad yw ei yrfa fel nofelydd ond megis dechrau.

Bydd Morgannwg yn gorfod gobeithio cymryd wicedi y peth cynta y bore yma ar ôl eu batiad ddoe.

Maen nhw hefyd yn gobeithio y bydd yr wythnos nesa' yn ddechrau ar gyfnod newydd ym mywyd Cymraeg Cwm-nedd a Chwm Dulais.

Os na chaiff Croft ei ddewis mae Morgannwg yn gobeithio y bydd yn cael ei ryddhau mewn pryd i charae iddyn nhw yn y gêm yn erbyn Sir Gaerhirfryn sy'n dechrau yfory.

'Tipyn bach mwy na phres cwrw gobeithio!

Ac mae Bryn Terfel yn gobeithio y bydd ei record sengl gyntaf, gafodd ei rhyddhau gan Deutsche Grammophongan, ar frig y siartiau pop dros y Nadolig.

Yn y cyfamser gobeithio fod rhywun tua Llanfair caereinion yn mynd ati i gadw eisteddfod y flwyddyn nesaf, fel y cedwir y ffin tua'r dwyrain.

"Dydach chi ddim wedi newid ych plaid, gobeithio?' 'Na, 'dydw i ddim yn cofio imi wneud.' 'Cellwair o'n i, wrth gwrs.' Gwasgarodd Rhodri dipyn go lew o 'i gwrw ar hyd y bwrdd a' ddillad wrth i'r chwerthin chwalu allan pan oedd ar ganol cymryd llwnc.

'Gobeithio y Sadwrn wedyn y bydda i yn chwarae yn erbyn Iwerddon.

Gwaith cyffelyb, gobeithio, i'r hyn a wnâi'r bobl yn Nhŷ Gwyn, ond bod rhai o'r rheini'n athrawon.

Y mewnwr Dan Van Zail fydd capten tîm y Springboks a byddan nhw'n gobeithio gwneud iawn am golli yn erbyn Tîm A Iwerddon yr wythnos dwetha.

Da ni'n edrych ymlaen at y gêm, ac os yda ni'n gweithio'n galed gobeithio y bydd rhywbeth yn digwydd.

Gwelid ambell un allan gyda'i wedd ddechrau'r gwanwyn, yn aredig ei dir, ac yn hanner gobeithio y caent aros wedi'r cwbl.

Collais yr ateb - ond rwy'n gobeithio ei fod yn un gwell na'r un a gefais i pan ofynnais i'r un cwestiwn pan oeddwn yr un oed a hi.

Mae rheolwr Cymru'n gobeithio y bydd ei berthynas agos â rheolwr Manchester United, Alex Ferguson, yn golygu y gall Giggs chwarae yn erbyn Iwcrain yng Nghaerdydd, wythnos i fory.

Gobeithio nawr y galla i fynd mlaen a sgorio rhagor.

MAE tîm rygbi'r gynghrair Cymru yn gobeithio teithio i De Affrica yr haf nesaf i chwarae tair neu bedair o gemau.

Rwyn gobeithio bydd e'n iawn.

Fyddwn i'n gobeithio ein bod ni i gyd fel aelodau Cymdeithas yr Iaith, er efallai yn ymateb yn reddfol i sefyllfa, yn hyderus fod y reddf honno wedi ei seilio ar egwyddor o hir ymarfer.

Gobeithio y bydd y fenter yn datblygu i fod yn un llwyddiannus o gofio mai'r prif nod ydy hybu y Sîn Roc yng Nghymru.

Mae'r ddau dîm wedi bod yn whare'n dda iawn a gobeithio cawn ni weld gêm o safon uchel a phawb yn ei mwynhau hi.