Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gobeithiol

gobeithiol

Yr oedd yn ddyn reit agos i'w le mae'n debyg ond yn ei athrawiaeth cymerai olwg ry arwynebol a gobeithiol o'r natur ddynol.

Gwrthod caniatâd i'r cynghorwr gobeithiol a wnaeth y Pwyllgor Gwaith; yr oedd y rhan fwyaf o'r aelodau'n pallu credu na ddeuai'r cynghorau i wybod mai oddi wrth y Blaid y daethai'r cynllun, ac felly tybient fod cystal i'r Blaid fynnu clod cyhoeddus am gyflwyno cynllun pwrpasol, er na ddeuai dim budd o'r cyflwyno.

Mae straeon synhwyrus a chelfydd harri Pritchard Jones, Ar y Cyrion, y mwyaf cyfoethog ac artistig o'r cyfan, er yn fwy tawel a gobeithiol - crefyddol-obeithiol, mae'n bosib - yn eu hymateb i'r "ddiwethafiaeth" hyn na'r gweddill.

Gan amlaf byddem yn dehongli hynny fel arwydd gobeithiol, yn hytrach nag fel awgrym fod pethau'n mynd ar gyfeiliorn.

Cafwyd arwyddion gobeithiol ar nifer o bwyntiau.

Blêr a gobeithiol oedd hi wedyn ond mi ddangosodd Earnshaw frwdfrydedd, dyfalbarhad a dewrder i erlid pas obeithiol.

Llawer iawn yn llai gobeithiol yw ...

Doedd Manon yn gwybod fawr am y busnes, ond daliai yn fwy gobeithiol na'i chymar: 'Dwi'n sicir y bydd 'na atab.

Ar un llaw, fe fydden nhw'n deyrngedau i arwriaeth cenhedloedd bychain yn wyneb tlodi, gormes a thrais; ar y llall, fe allen nhw greu darlun comig o griw di-brofiad ond gobeithiol yn ceisio rhedeg gwlad.

Ar y llaw arall, bu'n atalfa oherwydd fe ddigwyddodd ar yr union adeg pan oedd y Blaid Lafur yng Nghymru yn dechrau rhoi lle pwysig i Gymru fel gwlad a chenedl yn natblygiad ei pholisiau, ond o ganlyniad i'r isetholiad arafodd y datblygiad gobeithiol hwnnw.