Twm sy'n pwyntio at yr Eifl ac yn dweud wrth ei frawd, "o ffor' acw rydan ni wedi cychwyn." Ac ar ddiwedd y nofel mae Owen yn gweld y broses yn fwy cyffredinol wrth edrych i lawr ar ei ardal o ben y mynydd: Yr oedd y tir o gwmpas lle'r eisteddai ef yn gochddu, a gwyddai Owen fod yr holl dir, cyn belled ag y gwelai ei lygaid, felly i gyd - tua chan mlynedd cyn hynny.