a'r unig ymateb oddi wrthi hi oedd ceisio ein clwyfo ni drwy sylwadau creulon, o dan gochl diniweidrwydd.
Delfryd Tom Ellis oedd sefydlu senedd i Gymru, ond dan gochl Rhyddfrydiaeth Brydeinig.
Dan gochl y ffugenwau 'Cambro Sacerdos' a 'Ordovicis' yr ymddangosodd y llythyrau bustlaidd hyn, ond gwyddai Ieuan Gwynedd mai ficer Aberdâr oedd y 'Jeroboam rhyfygus a chelwyddog hwn'.
Felly y lleddir y wedd ddistrywiol i dadolaeth, a gwneir yr un peth i'r wedd gyffelyb mewn mamolaeth wrth ladd y Twrch, sy'n cynrychioli, dan gochl creadur gwrywaidd, yr hen fam o hwch a ildiodd fywyd i Culhwch, ond a oedd - fel y dywedodd James Joyce am ei famwlad - am ei fwyta'n fyw wedyn.