Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

godasai

godasai

Yma yng Nghymru bu protestio yn erbyn y bwriad i foddi Capel Celyn ac 'roedd Saunders Lewis wedi cynhyrfu'r dyfroedd yn ei ddarlith 'Tynged yr Iaith'. Ond 'roedd oes y brotest yn lledaenu drwy'r byd, y duon yn yr Unol Daleithiau a'r mudiad heddwch newydd a godasai o ganol tanchwa Hiroshima a Nagasaki.

Ers blynyddoedd, drwy aeafau hir, bu'n mynd o leiaf unwaith, weithiau ddwywaith yr wythnos i annerch cylchoedd llenyddol a chymdeithasau Ffermwyr Ifainc a'r WI a Merched y Wawr, mynd weithiau yn flinedig ar ôl diwrnod caled yn y Coleg, a dychwelyd yn afieithus flinedig gyda rhyw ddywediad dierth neu air newydd a godasai yn anrheg gan ryw ffermwr neu wraig-tŷ ac a roesai yn ddiogel yn ei dun baco.