Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

goddef

goddef

Haws oedd goddef pangfeydd newyn na sūn y pryfetach a redai dros wendid ei gorff.

Adwaith cyntaf Manawydan oedd goddef yr amgylchiadau drwg, ond o'r diwedd yr oedd yn rhaid iddo ddod o hyd i'r gelyn a'i wynebu.

Pleser munud awr yw'r cyfan yn y dafarn gyda'r blys, A'r teulu bach yn goddef angen, rhai o'r plant yn llwm eu crys: Ac heb ddillad ar eu cefnau, heb esgidiau am eu tra'd Pennoeth, coesnoeth ar yr heol yn newynllyd iawn eu stâd.

Mae'r Athro Pennar Davies yn diffinio problem Manawydan yn eglur - pa mor hir y dylid goddef anghyfiawnder, pa bryd y dylid gweithredu?

Ni ellid eu goddef.

Allan!', ac allan y buasen nhw'n mynd cyn goddef y fath anghyfiawnder.

Ond, meddai llais oer rheswm, oni fydde goddef hynny'n well o lawer na'i weld o'n rhedeg i ffwrdd efo'i chwaer i'r nefoedd a wyddai ble?

Haws oedd goddef y newyn ar ei orwedd nag ar ei sefyll.

O'r diwedd, cyfaddefodd Ali fod cweryl wedi bod rhyngddynt a bod Mary wedi dweud rhai pethau na fedrai ef mo'u goddef.

Ond seguryd, difaterwch, rhagrith, a ffugsancteiddrwydd, ni allai eu goddef o gwbl.

Mae'n gwneud y gwaith hwn, meddai, am nad yw'n medru goddef ysbytai.