Ond er cydnabod anorfodrwydd goddrychedd beirniadaeth, mae rhai nodweddion sydd heb fod, hwyrach, yn wrthrychol mewn ystyr wyddonol, ond sydd eto mor gyson gyffredin i weithiau sydd wedi eu profi eu hunain yn abl i oroesi pob barn a chwaeth a mympwy, nes mynnu eu lle fel anhepgorion.