Daethant at yr ail giât, wrth Goetra Uchaf, ac eto fe'i daliodd ar agor iddi, ac eto mi gerddodd hithau drwodd heb air.
Cerdded tuag adref i fyny'r llwybr sy'n arwain heihio i Goetra am Gapel y Graig oedd o, pan welodd fod dynes yn cydgerdded ag o i'r un cyfeiriad.
Dilynodd yntau, ond yn lle cerdded ymlaen, trodd y ddynes o'r llwybr ac i mewn i un o gytiau moch y Goetra.