Gofalai Francis felly bod y ffrynt yn tyfu rhyw gymaint bob dydd, ond prin y codai'r cefn o gwbl oherwydd bob bore bron dywedai Francis wrth ei gynorthwywyr, 'Mi ro'wn ni 'frontal attack' arno fo heddiw, John,--waeth befo'r cefn'.
Roedd gweddill y criw yn cysgu tra gofalai Douglas a hwythau am y llong.
Pwysodd ar Dik Siw i wneud cais am godi adeilad o ryw fath ar y tir lle'r oedd y Lotments yn awr, a gofalai yntau yr ai'r planiau drwodd heb ddim anhawster.
Yn naturiol, gofalai teuluoedd y Rhos fod eu merched yn cael copi o'r Rhos Herald; yn nhrefi mawr Lloegr yr oedd merched y Rhos yn golofnau yn yr eglwysi Cymraeg, ac yr oedd cynnwys yr Herald yn gymaint, onid mwy, o destun eu hymgom a'r bregeth.
Un swllt ar ddeg a chwecheiniog yr wythnos, os cofiaf yn iawn, a dalai fy nhad am lety i mi a gofalai yntau wedyn anfon bagiad o datws a swej ac wyau a chig moch i'r hen wraig o dro i dro.
Gofalai fod lle ym mhob rhifyn i newyddion yr eglwysi lleol, ynghyd â marwgofion byrion am bron pawb oedd yn gysylltiedig â'r mudiad yng Nghymru.
Un o'r dosbarth hwnnw o ferched yn Korea y gofalai'r Awdurdodau Siapaneaidd eu cadw'n hwylus i bwrpas difyrrwch y milwyr.
O ran techneg dylwadodd yr Impresionistiaid a'r O^l-impresionistiaid gryn dipyn arno, ond gofalai bob amser fod y dylanwadau hynny'n gwasanaethu ei amcan arbennig ef o gyfleu ei ymateb personol i olygfa.
Yn ail hanner y ganrif ddiwethaf meddai ar ddigon o allu i osod cyfundrefn addysg orfodol gwbl Saesneg ar y wlad; a phan ecsploetiwyd adnoddau naturiol a dynol Cymru yn ddidostur gofalai mai Llundain a Lloegr a gai'r budd.
Fe'i gwelid yn gyson yn angladdau'r fro, ac ar adegau felly gofalai pob offeiriad a gweinidog ei wahodd i gymryd rhan yn y gwasanaeth, un ai gyda gweddi neu ddarlleniad o'r Ysgrythur.