Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gofalodd

gofalodd

Gofalodd pob un blygu'i ben tua'r llawr a disgwyl yn ddistaw.

Gofalodd, er hynny, beidio â gwneud yr un camgymeriad ag o'r blaen.

Llyncodd Dan ei boer a gofalodd fod ei dei yn syth cyn cael ei alw i mewn i'r ystafell.

Gofalodd Del fod Fflwffen yn cysgu i mewn yn y tŷ y noson honno.

Gwn iddo fod yn hapus yn ei gartref a chyda'i deulu ac er na chafodd ef ei hun gyfle, gofalodd fod y plant yn cael pob cyfle posibl.

Drwy'r Ymofynnydd gofalodd drwytho'r mudiad yn hynt a helyntion ei orffennol, gan groniclo nid yn unig ffeithiau moel eithr eu gwerthfawrogi'n graff, gan danlinellu cyfraniad unigryw 'hen Gewri'r Ffydd' a'u pwysigrwydd i'r eglwys gyfoes.

Oherwydd eu bod allan ar wyneb daear ac yn ddiamddiffyn gofalodd Natur roi iddynt gynhesrwydd a golwg yn iawn am hynny.

Gofalodd y Dr John Davies am roi y rhai hyn mewn diwyg Gymraeg ac mewn iaith ystwythach.

Gofalodd y golygydd hefyd, yn ôl ei ddiffiniad o swyddogaeth cylchgrawn crefyddol, na châi'r mudiad fod yn 'fud a diamddiffyn' tra bo byw'r Ymofynnydd.

Gofalodd rhywun, serch hynny, argraffu ar feddwl y bechgyn iddynt gael eu geni'n freiniol ac yn ddiarwybod iddynt bron, yr oedd y berthynas waed yn eu cydio nhw â'r castell yn Nolwyddelan.

Ond y tro hwn gofalodd fynd â bwYd gydag ef mewn macyn coch.