Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gofalus

gofalus

Aeth i lawr y llwybr troellog at lan yr afon a thoc, arhosodd wrth hen foncyff derw gorweddog gan ddringo'n araf a gofalus i'w ben.

Dylid gwneud cofnod gofalus o'r holl lyfrau a fenthycir.

Yr oedd yn Athro ac yn athro da, yn fugail gofalus o'i braidd ac yn ddarlithydd brwd.

Craff a gofalus yr arddangosodd y beirniad hwn, sut bynnag, mai yn y gyfres ryfedd hon o sonedau 'y ceir y mynegiad mwyaf trwyadl a brawychus yn Gymraeg o thema'r briodas rhwng serch ac angau.'

Arhosodd ddwy noson gyda ni, a Mam oherwydd enwogrwydd yr ymwelydd efallai (ac fe'i gwnaed yn farchog yn ddiweddarach) yn fwy gofalus nag arfer, os oedd hynny'n bosibl, fod pob peth yn iawn: y prydau wrth ei fodd, y gwely'n gyfforddus, yr ystafell a'r llieiniau a'r hyn ac arall yn lân fel newydd.

Oedd dada yn un o ddeg o blant a chollodd ei fam pan oedd ond plentyn bychan, ond yn wahanol i blentyn "Y Bwthyn Bach To Gwellt", cafodd dad cyfrifol, gofalus i chadarn i'w magu i gyd efo'i gylydd a'u codi o dan do o safon cysegredig.

Gwêl ef ôl straen cynllunio gofalus ar rai ohonynt, ac mae'n cyfeirio'n benodol at y stori 'Dwy Gwningen Fechan' lle ceir toreth o gymariaethau'n dilyn ei gilydd.

Defnydd gofalus o ofod gwyn ar y ddalen yw'r ffactor bwysicaf mewn gosod.

Byddent yn werth mynd drwyddynt yn hamddenol a gofalus pan na fyddai'r un darlun arall ar ei meddwl i darfu ar bopeth.

Gan yr Athro Alun Llywelyn Williams (heblaw am draethawd Mrs Hughes ac un ysgrif yr un gan Syr Thomas Parry Williams a Dr Pennar Davies) y cafwyd yr ymdriniaeth fwyfaf gofalus o 'Sonedau y Nos'.

Ond yr hanfod yw dolennu cyfres o wersi yn ôl datblygiad ystyrlon gofalus gan ymgysylltu â'r canol neu â datblygiad o'r canol.

'Dan ni'n cynnig rysetiau iddyn nhw, achos does dim pwynt mewn ymarfer heb fwyta'n fwy gofalus, a vice versa wrth gwrs.'

Cawsom wybod mai rhaglenni hanner awr fyddai'n rhaid eu perfformio ar lwyfannau ar hyd a lled yr ynys a golygai hyn drefnu gofalus i geiso arddangos ein traddodiad ar ei orau o ran safon y dawnsio, cerddoriaeth a gwisg.

Yn gysylltiedig â'r egwyddor uchod daeth pwyslais hefyd ar weithgarwch ac ymroddiad lleol ac ar ymgynghori gofalus rhwng pobl o wahanol haenau o lywodraeth - dychwelir at hyn ar y diwedd.

Meddylwyr gofalus yn eiddigus o deilyngdod a gweddusrwydd unrhyw beth a ddwg eu henw.

Yr unig wahaniaeth yr ydw i'n ei deimlo fel Cristion yw fod hynny'n eich gwneud chi ychydig bach yn fwy gofalus yn y ffordd, er enghraifft, yr ydych chi'n ffilmio rhywun sydd wedi diodde' neu'n ffilmio rhywun mewn damwain neu blentyn bach mewn poen.

Pe gwireddid y stori mawn yma buasai'n ddoeth inni fod yn fwy gofalus o gynnwys y bagiau gyfu (growbags) ar ôl i dyfiant y cnydau haf ynddynt orffen.

Fe ŵyw y cyfarwydd am ymchwil Neil Wright a'i gyd-weithwyr i ddirgelion traddodiad testunol Sieffre, a blaenffrwyth y gwaith hwnnw yw'r argraffiad gofalus hwn.

Bu yma hel gofalus ac yn y bore yn blygeiniol yr oeddem ar frecwast.

Mi fyddan mor glên a gofalus ohonoch chi mi wnân nhw estyn y celfi i chi i wneud hynny.

Er, mi fyddan nhw'n siwr o fod yn fwy gofalus wrth ddewis nani y tro hwn.

Roedd y ddau am gael ei gweld fel gwladweinwyr gofalus oedd hefyd yn fodlon mentro.

Mae'r esboniad yma gan Layard yn un manwl, gofalus ac yn fewnol gyson.

Ac fe gyhuddwyd y mudiad o roi lloches ddirgel i Jesuitiaid yn Rhydychen hyd yn oed gan y Times gofalus geidwadol.

Ond wedyn, dim ond dadansoddiad athronyddol gofalus a wna'r tro i ddangos na ellir alltudio Duw a phwerau ysbrydol â syniadaeth mor dlodaidd.

Brysiodd Idris hefyn yn ei flaen er gwaetha'r demtasiwn i godi'r teganau, yn gwbl benderfynol y byddai'n fwy gofalus o hyn ymlaen.

Dydy cerddwyr ar y mynyddoedd a'r bryniau ddim yn cynllunio'r daith yn ddigon gofalus, dydyn nhw ddim yn gwrando ar ragolygon y tywydd, dydyn nhw ddim yn gwisgo dillad addas a dydyn nhw ddim yn mynd gyda chymdeithion eraill.

Ar yr un pryd mae yma ymorol gofalus am ffurf a shiap.

Y mae'r llyfr wedi ei seilio ar ymchwil gofalus mewn amrywiaeth o ffynonellau.

ac yn ei lygadu yntau'n dra gofalus.

Wedi cael cefn y ddau aeth JR Jeremeia Hughes ati i ddad-bacio ei hoff drysor, a hynny mor dyner a gofalus a phe byddai'n fam ifanc yn diosg ei chyntafanedig.

Bydd rhaid i'r ail fuddsoddi fod yn: a) gyflym - i sicrhau gwirddewis; b) ddoeth/gofalus - gan na ellir rhagdybio beth fydd dewis-batrymau'r defnyddiwr yn y dyfodol; c) yn eofn, - er mwyn magu hyder.

Mae'r llyfr hwn yn drysorfa o hanes eglwys, ac yn llwyr haeddu y gwarchod gofalus fu drosto ar hyd y blynyddoedd.

Gwr nobl oedd y Parchedig John Jones, yn fugail gofalus i'w bobl ers pymtheng mlynedd, ond ar derfyn pnawn heulog o Orffennaf fel hyn, ac yntau wedi galw yn rhai o ffermydd y fro ar ei daith i'r Plas, roedd o fymryn yn ansad ar ei draed ac, o bosibl, beth yn orhyderus yn ei siarad.

Deuir i gytundeb eglur, gofalus, a Manawydan yn gwylio ar bob manylyn.

Llyfai groen Alphonse yn arafa gofalus heb gymryd fawr o sylw o Louis.

Ysgrifennai'n rhwydd a gofalus gyda'i iaith yn raenus, gywir a heb fod yn rhy lenyddol a chymhleth.

Yn hwn fe'i hamlyga Rowlands ei hun yn hanesydd synhwyrol a gofalus.

Yr oedd yn waith gofalus, a phe byddai'r tyllau ychydig iawn o'u lle anodd oedd cael y camogau i mewn i'r cyrbau.