Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gofiaf

gofiaf

Mi gofiaf fi'r dyn hwnnw tra byddaf byw.

Ceir y ddau berl wedi eu cyplysu ym mhennill cyntaf y deyrnged i Idwal Jones, 'Gyfaill, mi'th gofiaf,' (sylwer ar y nodyn : 'Diwedd y pennill cyntaf, Malachi Jones.

Tra bwyf fe gofiaf wyneb gwelw HR a'r olwg freuddwydiol a fyddai yn ei lygaid fel pe bai'n gweld ymhell, gweld ei Gymru rydd ddelfrydol, tu hwnt i ffiniau ei oes ei hun.

Mi gofiaf y dull haerllug y penderfynasom yn union fel y rhannai brenhinoedd Sbaen a Phortiwgal yn yr Oesoedd Canol y byd rhyngddynt - fod John Bwlchyllan yn mynd i helpu i sefydlu mudiad iaith, a minnau i edrych ar ôl yr agwedd wleidyddol.

Beth bynnag, yn ôl a gofiaf, pan fu rhaid iddo ddangos y 'cerdyn' hollbwysig yn y diwedd, fe ddywedwyd yn garedig wrtho fod Pantycabal wedi bod yn gyfan gwbl yn yr iawn, er ychydig yn ddihiwmor o bosib, a'i fod ef, Waldo, wedi troseddu wrth beidio â dangos y cerdyn, ond y câi ef ei esgusodi'n llwyr pe bai ef yn sgrifennu ychydig o'r hanes ar gân i'r Pembrokeshire Police Gazette; ac yno, onid wyf yn camgymryd, yr ymddangosodd y gerdd am y tro cyntaf.

Ddeng mlynedd yn ôl, dim ond un awyren achlysurol a fyddai'n teithio yno yn ôl y galw o Lundain; erbyn heddiw, gellir hedfan i Krako/ w bob dydd o Heathrow, ac er nad yw'r maes awyr yn fawr iawn, mae'r adeiladau yn welliant sylweddol ar y sied a gofiaf.

Cafodd lan druan gêm ofnadwy yn Iwerddon ac fe gofiaf yn iawn weld y capten Yorath yn sgrechian arno am fethu gwneud rhywbeth yn iawn.

Nid y gweddau ymarferol 'cymwysedig' i'r materion hyn ond yr un ddamcaniaethol 'bur', a'r hyn a gofiaf hyd heddiw yw maint ei wybodaeth a'i ddiddordeb dwfn iawn yn hyn i gyd.

Dyna dair cenhedlaeth wedi edrych ar ol yr un capel (peth pur anghyffredin ynte?) Yn y ty uchaf un fe gofiaf ddwy chwaer yn byw.

Wrth feddwl am hysbysebu yn Gymraeg, yr unig hysbyseb weladwy a gofiaf yw Raleigh - y beisicl sy'n ddur i gyd.

Ysgrifennodd Robin nodiadau ar fy nghyfer ac edrychaf arnynt weithiau pan gofiaf am yr hen amser.

Peth arall a gofiaf oedd Sioe Fwystfilod mawr unwaith pan oeddwn yn ifanc iawn a 'nhad yn fy nghario ar ei ysgwydd.

Fe'i clywn wrthi'n anadlu ac yn sipian, ac yna, er syndod, dyma'i glywed yn sisial (nid wrthyf i, ond wrtho'i hunan) y sibrydion hyn a gofiaf yn eglur hyd heddiw: .