Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gofiai

gofiai

Doedd dim modd iddo wybod y byddai'n rhaid iddo erlid rhywun yn y car, ond fe gofiai o hyn ymlaen - pe bai'n byw trwy hyn oll - i fynd â char manual gydag ef pan weithiai ar 'op'.

Pam yr oedd yn rhaid i'r hen euogrwydd hwnnw ddod trosti eto'n byliau'r dyddiau hyn wrth feddwl mor wahanol yr edrychai'r lle heddiw i'r tyddyn hir, unllawr, a gofiai'n groten - y "tyddyn Cymreig?" Doedd dim rheswm yn y byd iddi hi orfod ysgwyddo'r plwc cydwybod yn gyfangwbl ei hun.

Un o ysgolheigion disgleiriaf Rhydychen a'i golygai, ond nid dysgedigion a ysgrifennai iddo, ond llenorion gwlad; rhywun a wyddai hanes ei blwyf ei hun, a fedrai ddisgrifio golygfa o ben mynydd, a wyddai am hynodion hen bregethwyr, a gofiai bethau diddorol am ei blentyndod, a adwaenai adar a blodau, neu a deimlai ar ei galon lunio cân o dri neu bedwar pennill.

"O Dduw!" griddfanai Wiliam, "pam na chawn innau gychwyn yr un fath?" Ac eto, fe gofiai am ei atgasedd diweddar o'r chwarel.

Mynd o amgylch y gwersyll i ofyn i bob copa am unrhyw gân, neu ran o gân a gofiai, a gofyn iddo ei hysgrifennu.