Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gofir

gofir

Fe gofir bod y mynach anllad yn gymeriad cyfarwydd mewn llenyddiaeth fasweddus trwy'r oesoedd.

Harris, fe gofir, oedd y gŵr gofnododd yn ei ddyddlyfr fel y bu iddo unwaith bron ildio i'r demtasiwn i wenu!

Arswydus yw'r darlun ym mhaladr yr ail englyn, a'r ansoddair 'ddi-derfysg' yn arbennig o nerthol pan gofir mai terfysg a fwriodd y llanciau i'r dwfn.

Fe gofir mai dyna'r enw a roddwyd gan anthropolegwyr ar ofergoel brodorion rhai o ynysoedd pell y Mor Tawel.

Mae'r dyfyniad yn llawn man ffrwydron cudd, megis y cyfeiriad cynnil at 'yr ychydig', diffiniad Lewis , fe gofir, o nifer y rhai a all werthfawrogi llenyddiaeth.