Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gofiwch

gofiwch

Gofiwch chi'r Yugo?

Fe gofiwch i David Phillips, Waun-lwyd, ddwyn offer marchogaeth a dillad tra'n gweithio ym mhlas Cilwendeg, a threuliodd flwyddyn o lafur caled yn gweithio'r felin droed yng ngharchar Hwlffordd am ei drosedd.

Chwi gofiwch mai 'Teyrnasoedd Daear' oedd y testun a osodwyd, ac i 'Pererin' ysgrifennu ar thema hunan-laddiad - trwy hyn yn unig y gallai'r bardd, a'i gymehriaid, gyrraedd y tŵr lle profir distawrwydd a gorffwys.

Mae'n siwr na fynnai iddynt fyned i'r gwaith glo i golli eu bywydau fel eu tad a'u brodyr, ac nid yw'n debyg y byddai gwaith fferm wedi apelio atynt fel plant tref, hyd yn oed pe na bai ganddi hi wrthwynebiad Mari Lewis i'w phlant fynd yn weision ffermydd: fe gofiwch na welodd honno yn ei bywyd bobl mor ddi-fynd 'a'r gweision ffarmwrs yma', na phobl a llai o'r dyn ynddynt.

Byddai'r Sun a'r Express a'r Mail, (sydd, fe gofiwch, yn dweud mai'r Saesneg ddylai fod yn iaith swyddogol Ewrop) y papurau a ddarllenir gan filiynau lawer, yn gwneud eu gorau glas i berswadio pawb i wrthod unrhyw beth "estron".

Fe gofiwch ei fod ef yn y Bardd Cwsc yn dangos y Gymraeg yn iaith llysgenhadon a llythyrau brenhinoedd.

Yn yr Iwtopia Mawr fe gofiwch fod y rhai a weithiodd ddim ond un awr yn y winllan yn cael yr un cyflog yn union â'r rhai a weithiodd drwy wres y dydd am ddeuddeg awr.

Os buoch chwi'n ceisio gwerthu buwch sbeitlyd ryw dro, fe gofiwch fel yr ymddangosai fod holl stūr y farchnad yn tarddu o gylch eich cyfeilles.