Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gofnod

gofnod

Ar gyfer pob pwnc a arolygir, mae'n rhaid cwblhau taflen grynodeb ar bwnc a'i chyflwyno fel rhan o Gofnod o Dystiolaeth yr Arolygiad.

Mae yma gofnod trawiadol o'r modd yr oedd gafael y wasg radicalaidd yn niwedd y ganrif ddiwethaf yn cael ei gweld fel bygythiad difrifol gan y dosbarth llywodraethol Prydeinig a hynny nid yn lleiaf am mai yn yr iaith Gymraeg yr oedd y wasg honno yn ei mynegi ei hun.

Mewn gwirionedd nid yw catalog ond yn gofnod o leoliad ac amser y sioe ynghyd a rhestr o'r anifeiliaid a gymerodd ran a'u perchnogion.

Cadwch gofnod wrth i chi fynd ymlaen drwy'r lleoliad gan nodi unrhyw bwyntiau y dymunwch ymchwilio ymhellach iddynt.

Cyfrifid ach dda yn gofnod o fawredd hynafiaid ac yn fodd i feithrin rhinweddau'r goreuon o'r rheini.

Cadwch gofnod o'ch pwysau ar eich siart.

Cofnodir agweddau ar ddatblygiad y plentyn cyfan mewn proffil sylfaen a all fwydo mewn i Gofnod Cyrhaeddiad Cynradd lle nodir cyrhaeddiad y plentyn mewn perthynas â'r Cwricwlwm Cenedlaethol a'r Cwricwlwm Cyflawn.

Er fod yna nifer o gamgymeriadau blêr fyddain gwylltio puryddion (ers pryd mar Gorkys yn dod o Ogledd Cymru?!), ar y cyfan maen gofnod difyr, manwl a hawdd ei ddarllen nid yn unig o ddatblygiad anhygoel cwlt Cerys, ond hefyd o'r chwyldro cerddorol gymerodd blynyddoedd i'w lunio.

(Mae ei ysgrif Saesneg ar Digs yn y gyfrol ryfeddol honno College by the Sea yn gofnod hynod.) Rhagluniaeth a'i bwriodd ef ac Idwal Jones at ei gilydd i'r un llety yn y dyddiau hynny.

Yr un modd y mae yn y Cofiant gofnod manwl o'r modd y blodeuodd awen David Ellis yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr.

Lle bo hynny'n briodol, dylid cofnodi barn ynghylch ansawdd y gwaith yn y meysydd trawsgwricwlaidd hynny ar y taflenni crynodeb ar bynciau unigol sy'n rhan o Gofnod o Dystiolaeth yr Arolygiad ym mhob arolygiad.

Penderfynwyd fod y cofnodion y Cyfarfod Cyffredinol olaf, wedi eu cywiro, yn gofnod cywir.