Pe gofynnech i un o hen lowyr dyffryn Aman am leoliad un o'r gwythiennau hyn fe ddywedai wrthych ar unwaith ei bod yn brigo i'r wyneb fan hyn, yn diflannu fan draw ac yn ymddangos drachefn mewn man arall.
Pe gofynnech pwy oedd y gwr hael hwnnw, efallai y dywedid wrthych mai Deon ydoedd a'i fod yn trigo yn Westminster, yn Llundain, ar un cyfnod.
Ond pe gofynnech iddo ymhle mae'r Wythi%en Fawr ond odid mai eich cyfeirio i bentref Brynaman a wnâi, gan restru enwau tyddynnod a mân ffermydd fel Pen-y-graig Glynbeudy, Cwm-garw a'r Croffte, oblegid teulu a wnaeth gyfraniad sylweddol i'r diwylliant brodorol a chenedlaethol yw'r Wythi%en Fawr.