Dyma oedd y geiriau y gofynnid i gefnogwyr eu harwyddo: "Yr wyf yn addo gwneud fy ngorau i sicrhau senedd i Sgotland, gyda hawliau mewn materion cartrefol".
Byddai'n rhaid iddi hi gyfaddef, pe gofynnid iddi, fod y gwaith ymchwil yma'n llawer mwy cymhleth nag a feddyliai.
Byddai'n canu mewn ambell i gyngerdd hefyd, pe gofynnid iddo wneud.
Gan nad oedd ein gard ddim yno, annoethineb ar ein rhan fuasai rhedeg oddi yno; fe'n cyhuddid o geisio dianc, a phe gofynnid inni egluro pam yr oeddem yn rhedeg buasai'n ddiwedd y byd arnom: nid oedd gennym mo'r syniad lleiaf sut i gyfieithu, "Mae 'na butain yn yr iard," i Siapanaeg.