Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

goginio

goginio

Rhaglen deledu: C'mon Midffild ac unrhyw raglen goginio.

Y mae rhannau helaeth o'r wlad heb na thrydan na dwr tap o hyd; ar wahân i'r aelwydydd cefnog, mae'r gweddill yn defnyddio glo i goginio, mangl wrth wneud y golch, a'r ciosg ar fin y ffordd os am wneud galwad ffôn.

Mae cemeg yn helpu wrth i rywun goginio.

Dyma lle'r oedd yr aroglau ffri%o ond mi ddeallais nad bacwn ydoedd ond 'Spam' yn cael ei goginio gan ferched o'r 'Church Army'.

Gellir hefyd goginio stribedi betys, efo llyfiad o olew drostynt, yn y popty; neu eu crasu mewn llefrith.

Bella yn dod draw am bump i goginio inni.

Mabel a Cecilia (dwy o fyfyrwyr y drydedd) yn dod draw i goginio inni.

Cynigodd Steven a Mabel goginio pryd inni a chawsant hwyl reit dda - pryd blasus dros ben.

Erbyn inni gyrraedd Llanilar yr oedd swper sylweddol wedi ei goginio ar ein cyfer.

Nid oedd trydan mewn lleoedd i odro nac i goginio nac i oleuo a bu llawer o ddefaid o dan gladd am ddyddiau mewn ffermydd isel iawn.

Dylid defnyddio olew llysiau i goginio'r pysgod a'r 'sglodion yn hytrach na brasterau trwythedig megis lard a margarin.

Ond os bydd y cwstard yn cael ei goginio'n rhy hir bydd y rhaffau protein yn cael eu gludio yn dynnach wrth ei gilydd a bydd hyn yn gwasgu'r hylif allan.

Ac isod gwelir pa ganran o'r fitamin C gwreiddiol sydd yn y tatws ar ôl gwahanol ddulliau o goginio: