Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gogleddol

gogleddol

Yn ystod Haf byr a ddaw i ardaloedd oer gogleddol y byd, mae'r eira a'r rhew yn diflannu a miliynau o blanhigion, blodau a phryfed yn ymddangos.

Does na ddim llawer o eiriau sy'n ddieithr i'r plant ac erbyn hyn rwy'n dueddol o ddefnyddio mwy o'r ffurfiau gogleddol.

Roeddwn yn arfer addasu rhai o'r geiriau gogleddol fel efo, dos, fo ac hitia i'r geiriau sy'n gyfarwydd i ni fel gyda, cer, fe a phaid a becso - yn enwedig yn llais yr awdur.

Ar weundir gogleddol y Berwyn, sydd dan reolaeth ciperiaid, dyn yw gelyn pennaf y Boda Tinwen.

Ar hyd arfordir gogleddol yr ynys ceir cipolwg ar hanes amaethyddol pwysig Ynys Môn, gyda hwyliau Melin Llynnon yn llywodraethu dros Landdeusant ac yn parhau i droi hyd heddiw.

Ger Edern ar arfordir gogleddol Llŷn saif fferm o'r enw Cwmistir, ond dengys hen ffurfiau o'r enw mai Cemeistir oedd y ffurf wreiddiol - cyfuniad o'r elfennau cemais a tir.

Ymlaen yr aethom drwy'r fagddu nes i enau gogleddol y twnnel ymddangos braidd yn ddisymwth, ac yn nes atom nag y disgwyliem, gan fod tro yn y twnnel.

Yn yr Hydref, pan fydd yr adar ddaeth yma yn y Gwanwyn yn troi yn ôl am Affrica gyda'u teulu newydd, mae miloedd o adar eraill yn dylifo i Brydain o rannau gogleddol y byd i dreulio'r Gaeaf yma gyda ni.

Cemais I mi, pentref glan mor ar arfordir gogleddol Mon yw Cemais, ond y mae'r enw hwn hefyd yn digwydd mewn nifer o fannau eraill yng Nghymru ar yr arfordir ac ar lawr gwlad o Feirionydd i Drefaldwyn ac o Benfro i Fynwy.

Cael eglurhad brysiog gan Paul, cynrychiolydd y Gronfa, fod eu gyrrwr nhw yn gefnogol i'r garfan sy'n rheoli hanner gogleddol y ddinas, a'r gyrrwr fyddai'n dderbyniol gan garfan y de yn hwyr yn cyrraedd y ffin i'n cyfarfod.

Yno, dim ond rhyw set ffilm o fynydd a wahanai ogledd a de, ac eisoes ynghanol y bore ysgubai afalansau cyson gannoedd o drodfeddi i lawr y pared gogleddol at lasier Porchabella.

Enghreiffliau clasurol o'r adar sydd yn dod yma ydi'r wydd ddu o Sibiria, yr wydd wyrain o'r Ynys Werdd, elyrch o Ynys yr Iâ a Gogledd Llychlyn, a miloedd o rydyddion o'r gwahanol rannau gogleddol, fydd wedi rhewi'n gorn yn ystod y Gaeaf.