Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gogoneddus

gogoneddus

'Roedd y pwyslais ar hynafolrwydd yr iaith yn rhan o gred ehangach, sef y gred fod i'r Cymry dras anrhydeddus, gogoneddus yn wir, tras y gellid ei olrhain yn ol i hanes Brutus yn dianc o Gaerdroea; 'ni, kenedlaeth y Bryttaniaid o oruchel fonedd Troia', yng ngeiriau'r croniclwr Ifan Llwyd ap Dafydd.

Yn Angkor gwelsom olion y diwylliant gogoneddus a flodeuai rhwng y nawfed a'r bymthegfed ganrif ac yna a ddiflannodd yn sydyn.

Bwydid yr ymwybod hwn gan gerddi proffwydol y beirdd brud, fel y'u gelwid, a addawai atgyfodiad gogoneddus i'r genedl a buddugoliaeth ar ei holl elynion.

A Thithau'n fwy gogoneddus na'th holl weithredoedd yn y cread.

A fyddai ei dranc anochel ef yn fwy gogoneddus na thranc anochel pawb arall ohonom?

Mae'r ystum ei hyn yn symbolaidd, a dweud y lleiaf, a byddai'n anodd dod o hyd i swydd lai gogoneddus.

'Merthyrdod gogoneddus', medd Branwen Jarvis: ond ar ba sail y gallai SL ddisgwyl y fath beth?

John Walter Jones -- Un arall o anifeiliaid anwes yr Anrhyd-eddus Hague a'i blaid, y Gogoneddus Geidwadwyr.

Ond mentro mae'r bobl - y Leaf Peepers yn eu ceir, yn dilyn y lliwiau gogoneddus.