Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gogwydd

gogwydd

Mae gogwydd wleidyddol y nofel yn cael ei phennu gan y ffaith mai'r aristocrat ifanc, Harri Vaughan, yw'r prif ladmerydd.

Un o ganlyniadau'r gogwydd yn y stoc dai yw fod anffitrwydd a diffyg cyfleusterau safonol yn fwy amlwg.

Amheuai eu gogwydd tuag at Gatholigiaeth a'u gwrthwerinoldeb, bid siwr; eithr yr hyn a barai'r anesmwythyd mwyaf iddo oedd parodrwydd digwestiwn eu hadwaith: 'Nid wyf yn hoffi ffolineb y Sais; ond nid wyf yn hoffi ychwaith ffolineb Ffrainc, ac ni all haeriadau Ffrainc fod ddim mymryn mwy deniadol i'm twyllo na haeriadau Lloegr.' Yn ei hanfod, ymryson oedd dadl Gruffydd a Lewis ynghylch pwy oedd gwir gynheiliad 'yr hen ddiwylliant Cymreig.' Yr oedd diffiniadau ehangach o'r cychwyn yn iswasanaethgar i Gymreigrwydd y ddwy estheteg a bleidiwyd.

'Doedd hi ddim fel'na ddoe,' twt-twtiodd Ifor a cheisio newid gogwydd y sgwrs.

Weithiau, bydd angen mwy o wybodaeth neu agwedd newydd ar bwnc a fyddai'n rhoi gogwydd ychydig yn wahanol i'r stori o'i chymharu â fersiwn y sianel arall.

Os cafodd Cymru, ar droad y ganrif, ei phrofiad o modernismo, daeth iddi ar wedd hen-ffasiwn, a'i gogwydd tuag yn ol.

Eglwysig iawn oedd gogwydd uchelwyr Llyn yn y blynyddoedd hyd at y Rhyfeloedd Cartref.

Bu+m lawer yn ei gwmni o dro i dro, a bob amser, o bob peth, byddai gogwydd ei feddwl yn wastadol at ddaioni ac at gydymdeimlad ag uniondeb a phurdeb.