Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gogyfer

gogyfer

Ffarweliodd a'r hogia a dymuniadau da gogyfer a'r Llun canlynol, diwrnod ailgychwyn yn yr ysgol a sefyll yr arholiadau, yn atseinio yn ei glustiau.

Er hynny, byddai ein hynafiaid yng Nghefn Brith yn falch o weld fod y Capel yma o hyd ac wedi ei addasu gogyfer ag anghenion y gynulleidfa sy'n cwrdd yno heddiw, er cymaint yw'r dirywiad crefyddol a ddigwyddodd yn ystod oes y rhai hynaf ohonom.

Ai pedwar can mlynedd heibio cyn y blodeuai hwnnw, ond paratowyd y ffordd gogyfer ag ef yn niwedd yr oesoedd canol, ac, ymhen canrif neu ddwy wedyn, gan ymlediad gwybodaeth o'r iaith Saesneg ymhlith y rhai a gawsai addysg ffurfiol.

Aberthai rhieni lawer cysur er mwyn cymhwyso eu plant gogyfer â'r gystadleuaeth lem am ddyrchafiad, ac aberthent y genedl Gymreig a'i hiaith er mwyn chwyddo nerth a gogoniant yr Ymerodraeth fawr yr oedd Cymru'n rhan ddinod ohoni.

Yn ail, mae cynhyrchaeth llafur yn debyg o fod yn uchel yn y diwydiannau cynhyrchu am wahanol resymau: yn un peth maent yn defnyddio llawer o gyfalaf gogyfer â phob person (maent yn fwy cyfalafddwys nag yw'r gwasanaethau), ac mae eu cymhareb allgyrch cyfalaf yn tueddu i godi gyda'r blynyddoedd.

Chwarter miliwn o boblogaeth yw'r rhif a ystyrir yn angenrheidiol gogyfer â chyngor sirol.