Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gohebwyr

gohebwyr

Oherwydd natur y gwaith, arferir derbyn yn ddigwestiwn air gohebwyr y papurau lleol neu'r newyddiadurwyr sy'n gweithio ar eu liwt eu hunain, ond y gwir yw nad oes raid i ohebydd feddu ar lawer o ddychymyg i greu ei stori%au ei hun pe bai newyddion yn brin !

Mae gwedd Gymreig i'r News of the World ac y mae yna Welsh Mirror erbyn hyn a gohebwyr yn cael eu hel i Gymru unwaith eto.

Ar y pryd roedd y gohebwyr yn tueddu i gytuno.

Yn Ciwba a Libya, fe agorwyd drysau i ni nad oedd gohebwyr o Loegr wedi ffwdanu cnocio arnyn nhw.

Ond yn ôl gohebwyr a fu yno y gân a fur plant yn ei hymarfer cyn iddo gyrraedd oedd, Yesterday y Beatles.

Y lladron a fyddai'n gyfrifol am lywio barn y gwylwyr yn y pen draw, nid y gohebwyr oedd yn cofnodi'u troseddau.

Ac yn anffodus bob wythnos mae papur newydd Undeb Cenedlaethol y Gohebwyr yn cario hanesion newyddiadurwyr drwy'r byd sy'n cael eu harteithio, eu carcharu a'u lladd.

Fe gododd hen ddadl arall ei phen yn Somalia - lle bydd un garfan yn cyhuddo gohebwyr o ymhyfrydu mewn dangos lluniau o ddioddefaint a'r llall yn wfftio'r syniad fod rhaid amddiffyn y gwylwyr rhag ambell i wirionedd yn enw chwaeth.

Ymlaen â ni felly i drafod y Llên Gwerin Cyfoes yma, a hynny drwy edrych ar rai o'r straeon a'r credoau sydd yn cael eu hadrodd a'u sgrifennu heddiw, yn aml iawn o dan fantell straeon newyddion - (a pheidied neb â dweud fod golygyddion a gohebwyr yn ymarfer y ddawn o greu llên gwerin i werthu eu cyhoeddiadau).

Y diwrnod cyn achub y babi bach Abbie Humphries, fe brofodd gohebwyr Golwg ei bod yn hawdd mynd i mewn i wardiau babanod yn rhai o ysbytai Cymru a bod rheolwyr iechyd wedi'u dal rhwng diogelwch a chynnig gwasanaeth.

Mae rheolwyr un ysbyty yn awr am godi cwestiynau ynglyn â'u trefn ddiogelwch ar ôl i'r newyddiadurwraig gyrraedd y ward heb i neb of yn dim; yn y ddau achos arall, fe gafodd y gohebwyr eu holi ond of ynnodd neb am brawf gwirioneddol o bwy oedden nhw na pham yr oedden nhw yno.

Eu gwaith hwy oedd sicrhau fod gohebwyr yn edrych yn ffafriol ar waith y tridiau a aeth heibio, neu o leiaf y gwaith a wnaed gan gynrychiolwyr yr Unol Daleithiau.

Mae'r aelodau yn croesawu'r cynigion ar gyfer penodi gohebwyr a golygyddion arbenigol newydd.

Efallai bod rhai gwleidyddion, gohebwyr, gwylwyr a gwrandawyr wedi diflasu ar etholiadau'n gyffredinnol eleni, ond roedd ansawdd yr apêl agoriadol yn yr ornest Ewropeaidd yn druenus.

Fe ddywedodd cyfaill am un arall o'r gohebwyr tramor mawr, Nicholas Tomalin, ei fod yn `sgrifennu damhegion a gadael i eraill greu'r credo'.

Rhan o waith beunyddiol y golygyddion yw mynd ar ofyn y gohebwyr lleol sy'n cyfrannu'r rhan fwyaf o'r newyddion a ddaw i law.

Yn ogystal â defnyddio'r gohebwyr lleol fel ffynhonnell, bydd cyfran o bob bwletin yn tarddu o'r adran newyddion ei hun.

Ym mhob un o'r llefydd hynny, roedd gohebwyr Cymraeg yn gweithio, nid gydag ysgrifbin a phapur ond gyda meicroffon a chamera.

Yn hyn a'm trawodd yn ddifyr o'i ddarllen oedd geiriau tafodiaith y gohebwyr wrth gyfrannu i'r papur.

mae'r aelodau yn croesawur cynigion ar gyfer penodi gohebwyr a golygyddion arbenigol newydd.

Un o broblemau penna' gohebwyr a chynhyrchwyr yw cael caniatâd swyddogol i ffilmio mewn gwlad.

Fe gyhuddwyd gohebwyr teledu'n gyson o dramgwyddo'r gwylwyr yn ogystal â'r trueiniaid yr oedden nhw'n eu ffilmio drwy roi mwy o bwys ar effeithiolrwydd arwynebol adroddiad nag ar ei gynnwys.

Cyfrifoldeb gohebwyr teledu oedd cyfleu peth o'r wefr honno'n ogystal ag amlinellu pwysigrwydd y cytundeb diarfogi a arwyddwyd gan Mr Reagan a Mr Gorbachev yn y Tŷ Gwyn.