Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gohebydd

gohebydd

Efallai bod dylanwad gohebydd Cymraeg dipyn llai, ond dibynnu ar bwysau poblogaidd y mae ewyllys gwleidyddol i weithredu, ac mae llais Cymry yn llais pwysig yng nghôr y cyhoedd y mae'n rhaid i lywodraeth gwledydd Prydain wrando arno.

Dydi hi ddim yn anodd rhoi gwedd mor ddi-chwaeth â hon ar waith gohebydd mewn newyn.

Mewn chwiniciad roedd gohebydd teledu o'r Unol Daleithiau wedi gweiddi arno - `Mr President can you confirm that the talks are going well?' Roedd pawb arall yn ddiolchgar fod o leia un beiddgar yn ein plith ni.

Dyw tasg y gohebydd ddim yn gyfyngedig chwaith i egluro pwy yw pwy yn y lluniau hynny, fel y gall y gwyliwr cul ei feddwl ddathlu ergyd sy'n taro'r gelyn a thrista/ u pan fo'r un darlun o alanast a dioddefaint yn digwydd dilyn ergyd a drawodd un o'n `bechgyn ni'.

Ond a oedd angen gohebydd Cymraeg ei iaith yno i gofnodi'r digwyddiad?

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach carcharwyd Kevin O'Kelly, gohebydd Radio Telefis Eireann, am wrthod cadarnhau, mewn llys yn Nulyn, mai Sean MacStiofain -- y gwr ar brawf - oedd yr un y bu'n ei gyfweld ar gyfer ei raglen radio.

Cyn cychwyn, roedd John Griffith - `Y Gohebydd' i ddarllenwyr Y Faner a phawb arall - wedi gosod ei fwriad ar bapur, gyda'i gymysgedd arferol o gyfeiriadau Beiblaidd, ebychiadau Saesneg, a Chymraeg cartrefol, byrlymus.

Yn hanes Russell hefyd, mae'n bosib' gweld elfen arall a ddatblygodd yn thema gref yn hanes gohebu tramor; y modd yr oedd personoliaeth y gohebydd ei hun yn dod yn bwysig a'r negesydd yn mynd yn rhan o'r stori.

Allan gyda'r tîm mae John Hardy, gohebydd pêl-droed BBC Radio Cymru.

Y Prawf - Fe lwyddodd y gohebydd i fynd heibio i'r Dderbynfa a wardiau unigol lle'r oedd mamau yn bwydo'u plant ond fe gafodd ei rhwystro ddwywaith cyn cyrraedd at y brif ward ei hun.

Mae'r holl elfennau yr oedd Y Gohebydd yn sôn amdanyn nhw i'w gweld yn y casgliad yma o ysgrifau gan newyddiadurwyr a ffotograffwyr ond, fel crwbanod yn cario'u cartrefi ar eu cefnau, mae llawer o'r drafodaeth ynghylch Cymreictod, neu ddiffyg Cymreictod, y gwaith.

Un o nodweddion John Griffith fel gohebydd oedd ei awydd i fynd i lefydd drosto'i hun i weld â'i lygaid ei hun.

Bu Alison Quinn hefyd yn ymweld â Mexico a Montserrat i recordio rhaglenni oedd yn edrych ar y gwaith elusennol a wneir gan Gymry ym mhob cwr o'r byd yn For Love Not Money, tra y teithiodd y gohebydd materion cymdeithasol, Gail Foley, i Chernobyl gyda grwp o blant o'r ardal yn dychwelyd adref ar ôl gwyliau yng Nghymru, i weld sut y mae trychineb 1986 yn parhau i effeithio ar eu bywydau bob dydd.

Ar ddydd o brysur bwyso, pe na bai'r gohebydd cyson wrth law, ni fyddai dihangfa hyd yn oed i'r mwyaf diymhongar rhag ymddangos ar y sgrîn.

Gohebydd - Malltwen Williams.

Am bump o'r gloch fe gynheuwyd y lampau er mwyn goleuo cyfraniad byw gan y gohebydd i brif raglen newyddion yr Almaen.

Mae'n amlwg, felly, bod o leia' ddwy elfen yn ganolog wrth drafod gohebu tramor: yn gynta', natur y gohebydd ei hun; yn ail, y ffordd y mae'n cyflwyno'i neges.

Os na fedrwn ni heddiw hawlio'r un adnabyddiaeth gyfeillgar o gymeriadau'r Hen Destament, mae maniffesto taith Y Gohebydd yn crynhoi llawer o hanfodion crefft y gohebydd tramor.

Heb sylweddoli hynny yr oedd y cyw-gohebydd a anfonwyd i wrando araith ac a ddaeth yn ei ôl yn waglaw am fod rhywun wedi saethu'r areithydd !

Mae braint uniongyrchol gohebydd yn amlwg - cael bod yn llygaid ac yn glustiau i gynulleidfa na all fod yn dyst uniongyrchol i ddigwyddiad.

Yn ôl gohebydd pêl-droed Radio Cymru, John Hardy, ar y Post Cyntaf, 'Mae Saunders yn teimlo mai dyma'r adeg i ymddeol o chwarae i Gymru, ond mae'n gobeithio cadw cysylltiad a'r tîm cenedlaethol drwy gynorthwyo ar yr ochr hyfforddi.

Mae'n rhaid i'r gohebydd, y cyfwelwr, ac i raddau llai, y cyflwynydd hefyd ddefnyddio'u profiad newyddiadurol i'w galluogi i ymateb i unrhyw sefyllfa gyfnewidiol y byddant ynddi.

Drwy wneud penderfyniad felly, am wn i, y mae pob gohebydd yn graddol ddiffinio'r berthynas rhwng gwrthrychedd ac ymateb personol.

Yn ôl Gareth Charles, Gohebydd Rygbi BBC Radio Cymru, bu buddugoliaeth ddydd Sadwrn yn hwb aruthrol i'r garfan gyfan - nid yn unig y rhai oedd yn chwarae.

Cyflwynodd Newyddion raglenni arbennig ar yr Uwch-gynhadledd Ewropeaidd yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf o stiwdio arbennig yn Neuadd y Ddinas, tra bu'r Gohebydd Ewrop Bethan Kilfoil yn cyfrannu'n fyw y tu allan i'r Swyddfa Gymreig.

Mae gohebydd pêl droed Radio Cymru, John Hardy, yn teithio i'r Wcrain gyda'r tîm.

Diolch yn fawr i'r Bwrdd Golygyddol a'r gohebydd am gyhoeddi yn yr Hogwr ganlyniadau cystadlaethau yn Llanelwedd.

Gohebydd y Wasg: dim adroddiad.

Yng nghyfnod John Griffith, roedd un gohebydd ben ac ysgwyddau uwch pawb arall yn y maes.

Yn nyddiau'r Gwlff unwaith eto, fel y gwelodd y gohebydd Cymraeg Guto Harri, roedd adroddiadau'n aml yn ymwneud â hynt a helynt y newyddiadurwyr ac yn codi o'u cynnwrf nhw ynglŷn â'u rhan yn y digwyddiadau.

Y ffordd orau yw i'r gohebydd a'r cyfarwyddwr neu'r newyddiadurwr gael mynediad fel twristiaid a chysylltu â'r criw lleol ar ôl cyrraedd y gwesty.

Cynhyrchodd raglen arbennig yn dilyn Refferendwm Cytundeb Heddwch Gogledd Iwerddon gyda chysylltiadau byw gan ein gohebydd gwleidyddol Bethan Rhys Roberts ym Melfast ac Aled Huw yn Nulyn.

Ar ei orau, mae'n gallu rhoi blas mwy real o ddigwyddiadau nag y gall yr un gohebydd tramor proffesiynol ei roi; ar ei waetha', mae'n golygu fod pobl gyffredin yn cael eu trin fel arbenigwyr.

Bron ddwy ganrif yn ddiweddarach, roedd gohebydd ar ran El Pais yn Iwgoslafia'n dweud mai'r newyddiadurwr sala' yw newyddiadurwr marw - am na fedr adrodd ei stori.

Dywedodd Gwilym Owen i Jon Gower, Gohebydd Celfyddydau BBC Cymru, ddisgrifio achlysuron pan nad oedd ond dau neu dri wedi dod i weld dramau mewn neuaddau lleol.

Roeddwn i yn Somalia am yr un rheswm ac ar yr un perwyl â phob gohebydd arall - i chwilio am straeon da mewn gwlad a oedd fel pe bai hi'n graddol gyflawni hunanladdiad.

Beth am y gohebydd felly?

Roedd y gohebydd di-enw yn eglwyswr a Thori digymrodedd a'i holl bwrpas oedd rhwystro Datgysylltiad yr Eglwys a dadlau hawliau'r tirfeddianwyr ar draul Anghydffurfwyr, Rhyddfrydwyr, Cenedlaetholwyr, Tenantiaid a'r Wasg Gymraeg - yn enwedig Baner Thomas Gee.

`Never forget the wonder of it all', meddai'r gohebydd profiadol o Sais, Martin Bell wrtha i rhywdro, gan led-awgrymu fod amheuaeth reddfol y newyddiadurwr yn ei rwystro weithiau rhag gweld ambell ryfeddod.

Gohebydd y Wasg: nid oedd adroddiad wedi dod i law gan Mary Vaughan Jones.

Pan siaradais i ag e yng ngwestyr tîm rai oriaun ôl gwrthododd roi cyfweliad, meddai gohebydd rygbi BBC Cymru, Gareth Charles.

Yn y gyfres, Beth yw gohebydd arfordir dwyreiniol yr Unol Daleithiau.

Amlygwyd ei hymrwymiad i gynnwys Cymru gyfan pan agorwyd stiwdio newydd y BBC yn Wrecsam, lle mae gan y rhaglen bellach ei gohebydd ei hun.

Mae'n debyg mai amatur o'r enw Henry Crabb Robinson oedd y gohebydd tramor cynta' a'i yrfa yntau wedi ei chreu gan ryfel.

Y Prawf Fe aeth gohebydd i mewn i'r wardiau cyn-geni heb unrhyw drafferth, helblo I sawl aelod o staff a dwy swyddfa gyda drysau agored.

Nid lle'r gohebydd yw arwain ymgyrch heddychwr yn erbyn rhyfel ond, os oes miloedd o filwyr ifanc yn debyg o golli eu bywydau yn y rhyfel hwnnw, fe ddylai'r llywodraeth a'r bobl adre' wybod hynny.

Yn anffodus, dyna yw perspectif sawl gohebydd a sefydliad newyddiadurol o bwys.

Mae fel petai gohebydd o Rwsia yn gofyn i ni beth sydd ym meddwl y Prif Weinidog.

Bu hefyd yn gweithio fel gohebydd a phennaeth rhaglenni i'r gwasanaeth radio Egin Irratian.

Dywed un gohebydd Americanaidd yn un o brif bapurau Lloegr fod saith o gorau Cymreig a saith o gorau Americanaidd yn mynd i gystadlu; ac nid hynny yn unig, ond fod côr Eglwys y Mormoniaid yn mynd i ddyfod o Ddinas y Llyn Halen i gystadlu yn yr Eisteddfod yn Chicago.

Roeddwn i, ar fy nhaith dramor gynta' erioed fel gohebydd, yn rhan ohoni.

Mae'n anochel y bydd y gohebydd yn cydymdeimlo fwy gyda milwyr o'r un wlad neu genedl ag ef ei hunan, sy'n siarad yr un iaith, yn ymwybodol o'r un hanes, neu yn rhannu'r un hiwmor.

Bryd hynny mae'n ofynnol i'r gohebydd fod yn arbenigwr ar wneud rhyw fath o jig-so, ac yn bwysicach fyth ei fod yn cael blas ar osod ambell ffaith yma a thraw mewn darlun aneglur cyn bod y darnau i gyd yn disgyn i'w lle yn y cynadleddau terfynol i'r wasg.

Maen anffodus bod hyn wedi digwydd, meddai Gohebydd Rygbi BBC Radio Cymru, Gareth Charles, oherwydd mae wedi tynnur sylw oddi ar berfformiad arbennig o dda.

Weithiau fel y dywedodd John Simpson, gohebydd profiadol y BBC, mae'n fwy anodd gwybod beth sy'n digwydd pan fyddwch chi yng nghanol cythrwfl.

Hyd yn oed heddiw, mae'r llinell rhwng gohebydd rhyfel a gohebydd tramor yn un denau iawn - yn unol â natur ddiffygiol newyddiaduraeth, dim ond pan fydd pethau wedi mynd yn wirioneddol ddrwg y bydd y byd yn cymryd diddordeb.

Ar adegau felly, cyn sicred â dim, y mae gên y gohebydd druan yn tueddu i rewi a'r gwefusau'n crynu wedi oriau'n gwagsymera yn yr oerni, gan wneud y dasg o adrodd yr hanes gerbron y camera'n un hynod boenus.

Yn ôl gohebydd y Cambrian Daily Leader ...

Roeddwn i yno hefyd i gofnodi f'ymateb personol fel gohebydd.