yr un teimlad ag a gâi wrth fynd i siopa 'da Janet i waelod Heol Eglwys Fair, wrth syllu ar y lamp fawr ar ffurf bachgen du'n dal gole yn y caffe crand gwyn 'na, a phawb yn wyn yn y siope, a'r tegane a phopeth, a'r bobl yn y llyfre - ar wahân i'r goliwogs - Jolly Wogs ...
Roedd erill yn mynnu cofio am y llyged glas gole'na, ac yn dweud fod ganddo fe ddylanwad o ryw fath arni hi - dylanwad wenci ar gwningen, os mynnwch chi.
Rhyw las gole oedden nhw, bob amser fel pe baen nhw'n sbio trwyddoch chi, a phan fydde fe'n wherthin - a phur anamal fydde hynny - fedrech chi byth deimlo'i fod e o ddifri.