Yn gymysg â hyn oll yr oedd yn ysgrifennu llithoedd i bapurau newydd yng Nghymru, Y Goleuad a Seren y Bala, a thrwy'r llithoedd hynny, yn hytrach na thrwy gymrodoriaeth Coleg Lincoln, yr oedd llwybr ei fywyd ef yn arwain.