Yn y Gaiman yr oedd yr ymarfer hwnnw a elwir yn u turn neu dro pedol gennym ni yn un hynod boblogaidd - ac annisgwyl - gyda gyrwyr eraill yn dibynnu mwy ar delepathi na goleuadau fflachio i wybod beth mae gyrrwr o'i flaen yn mynd i'w wneud nesaf.
A golau cochlyd y wawr yn sgleinio ar ei wyneb ac adlewyrchiad y goleuadau blaen yn disgleirio'n wyn yn ei lygaid ymddangosai fel y diafol ei hun, meddyliodd Gareth.
'Roedd y môr yn brochi'n uwch o funud i funud, a'r goleuadau trydan o'm cwmpas yn wincio'n bryfoclyd.
Aeth y miwsig a'r goleuadau a'r rhialtwch i'w phen fel gwin.
Y goleuadau, yn anad dim, a'i denai yno.
Yr oedd y carchar yn y nos fel claddfa, pob carcharor yn ei gell fel pe byddai mewn arch ar ei sefyll ac yn unicach na chorff yn ei amdo, a'r goleuadau bychain y tu allan i'r celloedd fel y lampau bychain hynny ar feddau mynwentydd Catholig y cyfandir.
Car eu ffrindiau, ta beth.' Trodd Gareth yn ei sedd, a suddodd ei galon o weld goleuadau car arall ryw ganllath y tu ôl iddynt.
Diffoddodd goleuadau'r glannau o un i un, a llyncwyd ni yng nghrombil du y mar agored.
Gyda'r goleuadau'n pefrio a'r carped trwchus, lliwgar, yn wir, roedd yn debycach i eglwys nag i gapel.
Erbyn hyn, os oes dau neu dri o dai yn weddol agos at ei gilydd ar fin y ffordd, mae'n rhaid cael lamp drydan i gneitio drwy'r nos ar ddrysau caeedig a ffordd ddidramwy, ac y mae goleuadau'r man bentrefi'n llewyrch melyn yn yr awyr dywyll.
Mae rhai ohona ni yn dal yn ddigon hen i gofio'r dyddiau du hynny pan oedd y goleuadau yn diffodd fesul un ag un drwy Brydain ben-baladr - a'n pobl ifanc, goreuon eu cenhedlaeth yn aml, yn gwneud dim byd mwy difrifol yn y tywyllwch dudew hwnnw na blasu siocled.
Diffoddwyd y goleuadau ac yna gwelai Glyn un golau bach yn fflachio yn y pellter.
Mae'r Enwau i gyd yn rhan gyntaf y frawddeg yn Lluosog ac yn yr ail ran yn Unigol - 'llyfrau, ffynnonnau, dyscawdwyr, goleuadau' ar un llaw a 'air byr, gwirionedd' ar y llaw arall.
Diffoddwch y goleuadau, a daliwch ddarn o gerdyn gwyn y tu ol i'r bowlen yr ochr arall i'r gannwyll.Dyma fydd y retina.
Fe aeth un stori ar led ym Mogadishu am griw teledu o'r Almaen a gyrhaeddodd ganolfan fwydo un prynhawn a dechrau gosod goleuadau ymhob man.
Bydd sawl sy' gosod y socedi i chi hefyd yn gosod uned fflachio newydd ar gyfer y goleuadau troi gan nad yw'r un gwreiddiol mewn car yn ddigon pwerus i ymdopi a'r garafan yn ogystal.
Goleuadau llachar y dinasoedd mawrion sy'n denu'r digartref.
Y mae gormod o lyfrau, gormod o ddysgawdwyr, a'r ffynhonnau a'r goleuadau bellach yn gwneud dim ond chwyddo a dallu dyn.
'Rwy'n cofio'r goleuadau yn y Neuadd yn diffodd yn araf, nid yn sydyn fel yn ysgoldy'r capel, a'r goleuadau'n chwyddo wedyn ar y llwyfan, y llen yn codi a byd hudolus y ddrama yn ymagor o flaen fy llygaid.
Roedd y pnawn gaeafol yn troi'n gyfnos a goleuadau trydan yn dod yn fwy llachar bob munud drwy'r llen o law mân.
Dangosodd cipolwg sydyn ar y spido eu bod yn gwneud dros saithdeg; drwy'r sgrin flaen, gwelai Gareth y goleuadau blaen yn dawnsio oddi ar lwyni a ffensiau.
Winciai'r goleuadau bach yn eu miloedd arno a theimlai ei du-mewn yn corddi.
Roedden nhw dan yr argraff fod y trydanwyr caredig yn gosod goleuadau parhaol yn y ganolfan, er mwyn caniata/ u i'w gwaith fynd yn ei flaen drwy'r nos.
Mae llyfrau fel ffynhonnau, a Dyscawdwyr fel goleuadau lawer yr awron ymysg rhai dynion Cymmer dithau (O Gymro Caredig) air byr mewn gwirionedd ith annerch yn dy iaith dy hun.
Oni fyddai'r goleuadau trydan yn gryn ryfeddod i drigolion y dyddiau gynt?
Pan oedden nhw ar eu ffordd adre o'r parc fe welson nhw Dad yn croesi tuag atyn nhw wrth y goleuadau.
Ymateb cyntaf i eiriau fel llyfrau, ffynhonnau, dysgawdwyr a goleuadau yw un o werthfawrogiad; mae llyfrau yn cyfoethogi dyn, ffynhonnau'n ei adnewyddu, dysgawdwyr yn ehangu'i wybodaeth, goleuadau yn ei arwain yn y tywyllwch.