Adeiladwyd goleudai newydd i nodi'r creigiau twyllodrus o gwmpas y glannau ond, serch hynny, byddai aml longddrylliad.
Cofiodd am y llongau anferth oedd wedi diflannu heb i neb glywed sôn amdanyn nhw wedyn, am donnau oedd yn uwch na phen uchaf goleudai, am fôr oedd yn medru torri concrit trwchus yn union fel petai'n blisgyn wy.