Dymunwn yn dda i Emyr a Massie yn y ddinas dros y Fenai, diolch am eich cwmni a'ch cefnogaeth, mae eich myned yn golled i'ch cymdogion ym Mhorthllechog.
Holodd hi ddim beth oedd ei golled ef.
Ar ei fynediad i'r ystafell gafaelodd yr Yswain yn ei law, ac ysgydwodd hi yn galonnog a chroesawgar, a datganodd ei ofid am ei golled, a'i lawenydd am nad oedd Harri wedi derbyn niwed, a dywedodd yn ddistaw yn ei glust: `Oni bai mod i'n gwybod fod ti wedi cael llawer o arian ar ôl dy dad, mi f'aswn i yn dy helpio di i neud y golled i fyny.
Mae colli Hagi, oherwydd y gwaharddiad, yn golled fawr iawn i Romania.
Mae hi hefyd yn astudiaeth seicolegol o unigrwydd ac o golled.
Fel rheol mae'r golled leiaf wrth ffrio neu rostio.
'Roedd o'n dro anffortunus iawn, a mae'r golled yn fawr, heblaw fod chi wedi colli llawer o sbort.' `Wmbreth,' ebe un o gymdeithion Ernest.
Efallai, fe'i clywais yn honni, y byddai'n rhaid i Gymru fynd fel Iwerddon a cholli'i hiaith cyn y cyffroid hi i adweithio yn erbyn y golled ac i droi at genedlaetholdeb.
Ni theimlai gymaint â hynny o golled ar ôl ei gyfeillion chwaith, hyd yn oed pan ddeallodd bod posibilrwydd y caent eu darganfod gan y fyddin Brydeinig.
Oherwydd y cysylltiadau teuluol â'r Tabernacl, teimlwyd y golled yno i'r byw.
Ni allai Harri ychwaith beidio â meddwl am ei gyfoedion a'i gyfeillion, fel y byddent yn cymryd arnynt gydymdeimlo ag ef yn ei golled, ac ar yr un pryd yn llechwraidd chwerthin yn eu llewys ei fod wedi bod mor anffortunus yn ei ymdrech gyntaf i droi ei gefn arnynt hwy!
Nid oedd y golled ariannol yn ddim yn ei olwg o'i chymharu â'r gwawd y gwyddai a fynwesid, yn y man, nid yn unig gan ei uchafiaid, ond ei isafiaid hefyd.
Sylweddolais chwerwder y golled a gawswn yn ei farwolaeth, a theimlais fy hun yn unig a di-gefn.
'Roedd wedi colli ei briod bedair blynedd yn gynharach, ac effeithiodd y golled hon yn ddirfawr arno.
Ar y Post Cyntaf y bore yma bu'n son am y golled petae Caerdydd yn colli'r tîm, ac am y sibrydion y gallai'r Devils symud i Ddulyn.
Tarodd gusan ffurfiol ar ei foch, a'i holi ynglŷn â'r rhaglen, cyn mynd ymlaen i bwysleisio'i golled.
Byddai adeiladydd, er enghraifft, yn ei chael hi'n fanteisiol i agor cyfrif arbennig ar gyfer pob contract y mae'n ymgymryd ag ef, er mwyn iddo fedru dweud pa elw neu golled a wna arno.
Galaru'r golled i Gymru drwy farwolaeth Llywelyn saith gan mlynedd ynghynt a wnaeth Gerallt Lloyd Owen, gan ofidio ar yr un pryd am amharodrwydd Cymry ei ddydd i dderbyn unrhyw ffurf ar hunan-lywodraeth.
Iesu oedd 'i holl fyd e, a phan groeshoeliwyd Iesu, teimlodd Tomos golled bersonol, yn fwy na'r lleill; ei hapusrwydd, ei obaith a'i hyder yn ffradach y cwbwl ar ben.
Y mae cwningod yn ail da i'r llygod mawr yn eu gallu i epilio'n gyflym ac y mae'r golled a achosant i gynnyrch amaethyddol yn arswydus.
Soniai pawb am y golled a fyddai i'r achos, a rhedai'r holl gydymdeimlad tuag at Miss Hughes.
Sylweddolodd mai ysgyfarnogod oedd yn peri'r golled a gosodwyd maglau yn y gwrych terfyn.
A thrôdd yr holl areithiau huawdl ac eneiniedig a glywswn ar "Natur Eglwys", yn dom ac yn golled i un pechadur arall.
Doedd ganddo ddim byji hyd yn oed a doedd hynny'n sicr ddim yn golled.
Ers rhai misoedd cyn cwrdd â Miss Derwent 'roeddwn i wedi bod yn llythyru â Chwmni Collins, a'i gael y cwmni mwyaf parod i sicrhau fod plant Cymru'n cael cyfieithiadau Cymraeg, a hynny heb ofidio am y golled ariannol a allai ddilyn y fenter, a heb ddisgwyl unrhyw elw, ac eithrio'r cyfle i ledaenu enw da'r Cwmni trwy Gymru.