Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gollwng

gollwng

Nid ydynt yn sôn fod y to'n gollwng neu fod y coed yn pydru.

Ni esbonnir y rhesymeg sy'n cysylltu gollwng gwaed â symud pechodau.

Roedd y llong yn gollwng dwr ac roedd yn rhaid i'r criw bwmpio ddydd a nos er mwyn ei chadw rhag suddo.

Y gamp fawr oedd peidio â gollwng y gath o'r cwd.

Mae'n codi arswyd arnom eto gyda'r llun o ferch fach yn rhedeg yn noeth i lawr llwybr o'i phentref yn Fietnam a'i chroen yn friw gan y napalm yr oedd awyrennau bomio yr Unol Daleithiau wedi eu gollwng ar ei chartref.

Gollyngdod digamsyniol ar bnawn heulog o Fehefin i gaethion bach y desgiau pren fyddai edrych i fyny ar y manol yn entrychion yr ysgol a chofio fel yr oedd Wmffra a Nedw wedi treulio pnawn cyfan yn y seilin yn gollwng slumod wrth ben dosbarth y sgþl.

Anodd ar derfyn defod oedd peidio gollwng deigryn wrth glywed llu mewn eglwys yn Ffrainc yn canu Dawel Nos mewn Almaeneg.

Wedi chwythu ei phlwc yr oedd yr hen wraig ac eto yr oedd hi fel pe bai hi'n methu â gollwng ei gafael.

Gollwng hwy, iddynt fynd i'r wlad a'r pentrefi o amgylch i brynu tipyn o fwyd iddynt eu hunain.' Atebodd yntau hwy, 'Rhowch chwi rywbeth i'w fwyta iddynt.' Meddent wrtho, 'A ydym i fynd i brynu gwerth ugain punt o fara a'i roi iddynt i'w fwyta?' Yr Arglwydd Iesu, yn ôl adroddiad Ioan, a gymerodd y cam cyntaf yn y sefyllfa ddyrys trwy ofyn i Philip: 'Lle y gallwn brynu bara i'r rhain gael bwyta?' Amcangyfrifodd Philip, y Swyddog Bwyd, debyg, ymhlith y deuddeg, y byddai eisiau o leiaf werth ugain punt o fara i roddi tamaid i bob un.

Wedi darfod y ddau dwll mae ei fêt sydd ar y top yn gollwng dau bisyn o haearn crwn iddo; mae yntau yn eu rhoi yn y tyllau, wedyn mae'r sawl sydd ar y top yn gollwng darn o bren iddo.

Bydd gollwng cardiau, yn enwedig rhai duon, yn ystod gêm yn anlwcus iawn ac wrth gwrs mae'n draddodiad i gysylltu cardiau duon, yn enwedig rhawiau, gyda

Yna fflachiodd golau gwyrdd i'w gollwng i gerdded yn llinellau trefnus am y cantîn.

Fe allwch chi eu gollwng nhw'n rhydd nawr.' Heb betruso am eiliad aeth y cwn yn syth at y parsel brown mawr.

Roeddwn bron a cholli fy mholion sgio a gollwng y lifft yn gyfangwbl o 'ngafael.

Gollwng peth ohono drwy'r hollt yn y drysau ôl, efallai?

Nhw oedd wedi gollwng y lefel uchaf o nwyon gwenwynig i'r awyr y llynedd er bod lefel y deunydd mwyaf gwenwynig gan y cwmni yn fach iawn.

Kate a finnau yn gollwng ein bagiau i gyd un wrth un o'r trên a disgwyl ar y platfform am rywun o Goleg Athrawon Yiyang i'n tywys yno.

Ni chlywyd yr un o gantorion neithiwr yn boddi yng nghanol y gerddorfa er yn yr ysbeidiau pan oedd y cantorion yn ddistaw fe glywsom Gerddorfa'r BBC yn gollwng iddi.

buan doed y benodedig awr I'm gollwng ymaith a bod eto'n un A hi'r fyth-gannaid, fyth-fendigaid fun...

Awyrennau'r Unol Daleithiau yn gollwng bomiau napalm ar Fietnam.

Meddyg gwyn, yn siarad Cymraeg, a chyda blynyddoedd o brofiad yn ei swydd, a ddywedodd mewn ffordd ddifeddwl ac angharedig wrth wraig ifanc fod ganddi hi ganser ai gollwng wedyn yn syth yn ôl i ward i ganol cleifion eraill.

Gwyddai oddi wrth yr ychydig lythyrau a ddilynodd nad oedd pethau'n argoeli'n dda i Lynges Prydain yn India'r Gorllewin - Eistaing, a'r Llyngesydd a'i holynodd, Comte de Guichen, yn gyfrwys, y morwyr a'r milwyr yn anystywallt, afiechydon yn rhemp a llong ugain oed fel y Cornwall yn gollwng fel basged.

Daeth yn amser i ni gael ein gollwng i fynd allan i chwarae, ac ofnwn gyfarfod yn yr iard â phlant yr ysgol heb athro yn y golwg.

I ddifyrru'r amser, fel petai, cydiodd mewn dyrnaid o dai a ffermdai a'u gollwng yn freuddwydiol drwy ei ddwylo fel y bydd plentyn yn chwarae gyda thywod.

Yna cyfrif hyd at saith cyn gollwng un arall.

Gyda'r newyn yn y gell gosb daeth yr hiraeth am sigaret; hiraeth am glywed ei haroglau, am osod y tân wrth ei blaen melyn, gollwng y mwg glas allan rhwng ei wefusau a'i weled yn ymdorchi i'r awyr.

...Pst!' Dadfachodd Dora y ffenestr a gollwng y darn ucha' i'r gwaelod nes bod ergyd.

Plymiodd un amdano yn wyllt, fel awyren yn sgrechian cyn gollwng bom ar long adeg rhyfel.

Yn ôl aelod o'r cabinet Binyamin Ben-Eliezer, mae'n debyg y bydd Israel yn gollwng eu polisi o ymatal" er mwyn gallu ymateb i strategaeth "mwy gwaedlyd" y Palesteiniaid.

Roedd yna fachyn i ddal abwyd er mwyn denu'r gath, ac wrth dynnu yn hwnnw i gael y pysgodyn yn rhydd, roedd gwifren yn gollwng drws i lawr am geg y cawell.

Roeddan nhw wedi cael eu chwistrellu hefo pob math o sothach drud at bob dim nes yr oedd yn syndod nad oedd eu crwyn nhw'n gollwng!y misus, Anti Lw mewn unigrwydd urddasol ar y naill ochr, Huw Huws a minnau ar y llall.

Cyn i un ohonoch gael cyfle i ddianc mae nifer o'r milwry wei tynnu eu cleddyfau tra bo eraill yn rhoi saeth wrth linyn ac yn eu gollwng.

Byddai gollwng y ddwy dybiaeth gyntaf er mwyn cynnwys y sectorau ychwanegol hyn yn cymhlethu rhywfaint ar y model heb newid ryw lawer, ar yr wyneb beth bynnag, ar ei gasgliadau sylfaenol.

Y mae'n bwysig ichi beidio â gollwng y fantais hon o'ch gafael.

Roedd y brec wedi gollwng gafael ac roedd y lori'n cyflymu!

Gorfod gollwng bob dim o'i ddwylo a'i gleuo hi rhagddynt fel llwynog o flaen cwn.

Fe ddaeth ar draws y llwybr cyn bod crafangau y Biwrtianiaeth lem wedi gollwng ei gafael ar y gymdeithas yr oedd hogiau deg oed yn tyfu i fyny ynddi.

Yr oedd y llong yma yn gollwng dwr ac yn anffodus rhedodd i'r lan a bu'n rhaid cael gwaelod newydd iddi.

Os fydd o wedi gollwng y milgi'n rhydd ac wedi ei amseru o'n rhedeg, chyrhaeddith o ddim yn ôl am oriau.

Mae'r sawl sydd ar y top yn gollwng pedair neu bump o ebillion i lawr ac wedyn yn mynd i lawr at ei fêt hefo'i raff ei hun.

Cicio wrtyh i chwi ei godro a chornio wrth i chwi ei gollwng - "Wel diolch i'r nef mai dyma'r tro olaf i mi dy ollwng di% meddwn i ryw fore.

Ond wrth fynd heibio i stesion Caernarfon, dyma drên yn gollwng chwibaniad uchel, a'r ceffylau'n neidio ymlaen mewn dychryn.

Nid oedd dim amdani ond ymddiheuro, â'i gynffon yn ei afl, a gollwng y bechgyn yn rhydd gyda rhybudd.

Er hyn, yr oedd y dyneiddwyr yn sicr yn ymdeimlo â bygythiad, ac yn wyneb hynny, yr oedd angen pwysleisio fwyfwy ogoniannau'r iaith Gymraeg a'r traddodiad Brytanaidd, ynghyd, wrth gwrs, a lladd ar y rhai oedd yn bradychu'r gogoniannau hyn drwy eu 'gollwng dros gof', a defnyddio ymadrodd Gruffydd Robert.

Bydd yr atomau Nd yn gollwng goleuni laser drwy ddisgyn i lefel egni ychydig uwchlaw'r gwreiddiol, yna'n disgyn ar unwaith i'r lefel wreiddiol heb ollwng goleuni.

A dyna'r gath mewn carchar nes byddai rhywun yn ei gollwng yn rhydd.

Dywedodd cwmni Corus, sydd bia'r gwaith yn Llanwern, eu bod wedi llwyddo i ostwng y lefel oedd yn cael ei gollwng 10% y llynedd.

Methu gollwng ei gafael ar ei gŵr, efallai ar ôl iddi ei gael o'n ôl o'r môr.

"Mae'n rhaid i mi beidio â'i gollwng," meddyliodd, gan barhau i gael ei lusgo drwy'r tonnau a chan gofio'r tro hwnnw y syrthiodd oddi ar ei geffyl ers talwm a chael ei dynnu ar hyd y ddaear gydag un droed yn sownd yn y warthol.

"Does gen i ddim poen o gwbl yn fy nwylo rwan." Ond wedi gollwng gafael yr oedd o, heb sylweddoli hynny.

Gadewch inni droi felly i ystyried pa wahaniaeth y byddai gollwng rhai o'r tybiaethau hyn yn ei wneud i gasgliadau'r model dechreuol.

Cyn gollwng y rhaff i'r pydew dyna fo'n taflu hen garpiau a hen fudr fratiau i lawr ac yn dweud wrth Jeremiah am roi'r rheiny o dan 'i geseiliau rhag i'r rhaff 'i frifo fo wrth 'i godi.

Wrth gwrs, 'roedd eglwys hynafol Sant Dyfrig wedi ei gwasgu i gesail y mynydd ganrifoedd cyn hyn, ac yn ddiweddar bu rhywun mor ddifeddwl â gollwng 'sgubor o gapel Annibynwyr yn blwmp ar ganol y rhos yn y man mwyaf diarffordd posib'.

Rown i'n un o bedwar a fu'n gollwng gollwng coffin Madog i'r pridd ac rwy'n cofio taflu cipolwg ar Luned wrth i fi neud hynny a gweld 'i bod yn dra deniadol mewn du.

Ceisiodd y Capten berswadio un o'r criw i neidio i'r môr a nofio o dan y dwr i weld lle roedd y llong yn gollwng.

Clywsom ef yn gollwng ebwch ddig, yn troi ar ei sawdl, a mynd allan i'r buarth.

Un arferiad barbaraidd sy'n gysylltiedig â Dygwyl Steffan yw'r un a seiliwyd ar y gred fod gollwng gwaed o fudd mawr yr adeg yma o'r flwyddyn.

Ddechrau'r wythnos cafodd cannoedd o alwyni o gemegyn wedi gollwng i'r môr o Atomfa'r Wylfa ar Ynys Môn.

Gorfu arnaf roddi barau heyrn ar ffenestri'r tŷ i'w rhwystro rhag gollwng y gwyr i mewn.