Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gollyngwyd

gollyngwyd

Bu'r perthi a'r goedlan yn crynu er diwedd Chwefror gyda sgrech, chwiban a chrawcian, a gollyngwyd pob offer o law i wrando'r deryn du o'i gangen ar y pren ysgawen; ac yn y distawrwydd hwyrnosol, deuai nodau trist y gylfinir o'r ffridd uchaf drwy ffenestr ystafell fy ngwely.

Ym mis Tachwedd gollyngwyd bloc o goncrid o bont ar ben tacsi a gludai'r rhai a oedd yn torri'r streic i'w gwaith, a lladdwyd y gyrrwr.

Gollyngwyd tri cwch bychan ac fe ddodwyd casgenni ynddynt.

Er hyn oll, unwaith y gollyngwyd ei ddwylo'n rhydd, edrychai ymlaen i'r dyfodol yn ddibryder, gan ddyfalu'n dawel.

Wedi sefyll am ennyd ar stepan drws y ffrynt, yn cymhwyso'r nocar, mewn cystadleuaeth â'r gramaffôn, fe'm gollyngwyd i mewn gan y forwyn fach, â'i hwyneb yn disgleirio gan sirioldeb a sebon.