Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

golofnau

golofnau

Papur swmpus, yn golofnau trwm o dduwch heb lun i'w ysgafnhau.

Datblygodd hi i fod yn un o golofnau'r pwyllgor a buan iawn y daeth yn gadeirydd.

Y ffwrnesi mawrion a'u geneuau aethus yn chwydu allan golofnau mwg a fflamiau troellawg cymysgedig a gwreichion i'r nwyfre, ac megys o dan ei seiliau yn tarddu allan gornentydd tanllyd o feteloedd yn llifo i'w gwelyau, y peirianau nerthol yn chwythu iddynt trwy bibellau tanddaiarol fel pe bai diargryn wedi talu ymwdiad a'r dyffryn .

Yn naturiol, gofalai teuluoedd y Rhos fod eu merched yn cael copi o'r Rhos Herald; yn nhrefi mawr Lloegr yr oedd merched y Rhos yn golofnau yn yr eglwysi Cymraeg, ac yr oedd cynnwys yr Herald yn gymaint, onid mwy, o destun eu hymgom a'r bregeth.

Un o brif golofnau ein ffydd yw mai pechadur yw dyn.

Bu'r bardd yn un o golofnau'r achos dirwestol yn nyffryn Aman am flynyddoedd lawer, a bu'n areithio o blaid llwyr ymwrthod â diodydd meddwol ganwaith, er iddo yntau ar ei addefiad ei hun fod yn gaeth i'r arfer ar un adeg.

Ond, chwarae teg iddo, 'roedd y gwr addfwyn hwn yn ddigon gostyngedig i addo y deuai'n ôl i wasanaeth y Genhadaeth, pe byddai'r cynllun i weithio'n annibynnol yn methu.' Ymhlith y gweithwyr a oedd yn amlwg yn Sylhet bryd hyn yr oedd Suresh, a oedd bellach yn gofalu am Sunamganj, Jogesh, a oedd yn efrydu ar gyfer ei BA yn y coleg yn Sylhet (bu'n ffyddlon iawn yn gofalu am yr eglwys Bengali yn nhref Silchar am flynyddoedd wedyn tan ddiwedd y rhyfel, pan ddaeth amhariad ar ei gof) a Subodh Dutta, a oedd ar y pryd yn athro yn yr ysgol yn Sylhet ac yn compounder yn y dispensari yno; daeth yr olaf yn un o golofnau'r eglwys ar y Gwastadedd ac yn 'bregethwr Cyrddau Mawr'.

A'r cyfarfod yn anterth ei wres, daeth cerbyd i'r fan, a neidiodd gŵr ohono a adwaenai pawb, a phed enwem ef, enwem ŵr y gŵyr Cymru gyfan amdano fel un o golofnau cadarnaf y mudiad hwn.

Craig folcanig yw hon eto, dolerite y tro yma a goleddodd yn golofnau hecsagonal.

Sefydlu nifer o golofnau rheolaidd i sicrhau erthyglau cyson -- eisoes mae colofnau Cysylltiadau Rhyngwladol a Pwy Uffar Yw...? wedi ymuno ag eitemau rheolaidd eraill fel y Cadeiryddol a thudalen Mr Mwydyn.