Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

goludog

goludog

Oherwydd atgasedd y goludog ac adwaith Seisnig yn erbyn Lloyd George, pardduwyd y Cymry mewn cyfrolau fel Perfidious Welshman.

Dyma'r amwysedd nodweddiadol Victoraidd a welir yn narluniau rhybuddiol Richard Redgrave neu Augustus Egg ar y naill law a synwyrusrwydd goludog gwaith artistiaid fel William Etty, Edward Poynter, Frederic Leighton a Laurence Almatadema (i nodi dyrnaid yn unig) ar y llaw arall.

Posibilrwydd eithaf hyn fyddai trawsnewid y gwledydd sydd heddiw yn druenus o dlawd i fod yn fasnachwyr goludog y dyfodol.

Ofnai nad oedd y barwniaid diwydiannol goludog yn malio'r un ffeuen am iechyd, lles a dedwyddwch y gweithiwr cyffredin.

Cafwyd yr arian gan deulu goludog yr oedd un o chwiorydd fy nhaid wedi ei wasanaethu fel morwyn nes gorfod gadael am ei bod yn disgwyl baba.