Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

golygai

golygai

Intermediate Science y gelwid y cwrs a golygai hynny astudio Cemeg, Ffiseg, Llysieueg a Swoleg i'm hymgymhwyso at y brifysgol yng Nghaeredin y flwyddyn ddilynol.

Golygai hynny wneud yr Ymgyrch yn bwnc plaid.

Byddai'n rhaid datgan i'r heddlu ble fyddem yn aros, a golygai hynny osod ein cyfeillion dan amheuaeth.

Golygai ddiwedd y gwareiddiad uchelwrol mewn ardal neu gyndogaeth a thrychineb i drefn a sefydlogrwydd mewn cymdeithas.

Golygai hynny docio ar y gweithgareddau a gynhelid ynddi gynt.

Golygai'r cytundeb `INF' y byddai taflegrau niwclear canolig yn cael eu dileu, gan gynnwys y rhai oedd wedi bod yn destun protest cyhyd yng Nghomin Greenham.

Yn fy achos i, golygai hyn deithio fel pawb arall.

Ond yn ymarferol golygai'r darpariadau hyn fod urddas swyddogol wedi'i roi ar grefydda yn Gymraeg.

Astudiaeth fanwl o'r corff dynol fu ein tasg am y ddwy flynedd gyntaf a golygai hynny ein bod yn treulio tri mis llawn efo gwahanol rannau o'r corff.

Golygai credu hyn mai braint yng ngolwg y gorthrymedig oedd ymladd a dioddef.

Golygai hynny ddarllen pennod o'r Beibl a gweddio wrth y bwrdd brecwast.

Nid oedd darpariaeth mor gyson yn Lloegr, Ffrainc, a Gwlad Belg, ond golygai cyflwr cymharol ddatblygedig y gwledydd hyn fod canran gweddol fawr o'r plant yn cael addysg o ryw fath, er nad oedd hyn mor wir am y taleithiau ymylol fel Cymru neu Lydaw, o bell ffordd.

Yn ddiweddarach yn yr wythnos, defnyddiwyd cyfweliad y golygydd gwleidyddol Glyn Mathias gydag ef gan holl rwydwaith y BBC. Ar draws y gwasanaethau teledu a radio, yn y ddwy iaith, cafwyd cydlynu effeithiol gyda newyddion rhwydwaith y BBC a golygai hyn bod dimensiwn Cymreig y stori wedi ei archwilio'n llawn ynghyd ag ongl Llundain.

Yn ystod y cyfnod yng nghanol fy mywyd (hyd at fy nhridegau hwyr) golygai hyn fy mod yn hepgor llawer o weithgareddau oedd yn golygu llawer o gerdded neu os oedd fy arafwch yn amharu ar y gweithgarwch.

Cawsom wybod mai rhaglenni hanner awr fyddai'n rhaid eu perfformio ar lwyfannau ar hyd a lled yr ynys a golygai hyn drefnu gofalus i geiso arddangos ein traddodiad ar ei orau o ran safon y dawnsio, cerddoriaeth a gwisg.

Golygai hyn fod yn rhaid treulio gryn amser yn amrywiol bwyllgorau'r cyngor.

Golygai hyn bod llawer iawn mwy o blant i'w ystyried yn blant ag anghenion addysgol arbennig.

Golygai'r gwaith datrannu hwn ein bod yn digroeni braich yn llythrennol ond fe wneid hynny, wrth gwrs, â'r cyrff a roddasid at wasanaeth meddygon drwy ewyllysiau unigolion.

Ei brif bwrpas oedd ymarfer ei ddoniau o fewn i'r fframwaith bonheddig, a golygai hynny ysgrifennu hanes o'r math a fyddai'n cydymffurfio, cyn belled ag yr oedd modd, â gofynion ysgolheictod y dydd.

Golygai 'y llys a wnaeth ein lles ni' lawer mwy ym meddwl y beirdd na lletygarwch a chynhaliaeth faterol.

Yr oedd gweithio ffwrnais yn llafur aruthrol, oblegid golygai drin platiau trymion a gwynias gyda gefail hir.

Golygai ei derbyn or-ogoneddu'r gorffennol, golygai weled patrwm pendant gosodedig-oddi-fry yng ngweithredoedd dynion, golygai ddefnyddio'r gorffennol fel mynegbost i'r dyfodol.

Heblaw bod yn llwfr, golygai egluro i Enoc, ac ailgodi plwc i fynd eilwaith.

Cyn y gallai'r Blaid fod yn rym yng Nghymru ac ennill iddi'i hun yr hawl i lefaru dros Gymru gyfan, fe ymresymid, byddai'n rhaid iddi ennill yr ardaloedd di-Gymraeg, a golygai hynny symud prif ganolfan ei threfniadaeth yno.

Golygai hyn fod un athro (neu athrawes) ar gyfer pob saith o ddisgyblion.

Golygai waith aruthrol yn paratoi'r testun ar gyfer ei argraffu a darllen y proflenni tra oedd yn y wasg.

Golygai gryn swm o arian i brynu peth felly, wrth gwrs, ond mi wyddai Nel yn eithaf da na fuasai gennyf byth ddigon o wyneb i;w gwrthod a minnau wedi gwario ugeiniau o bunnau ar lyfrau ychydig ddyddiau ynghynt.

Golygai disgyblaeth deuluol gydnabyddedig fod gan bob uned o'r fath gyfraniad pendant i'w wneud yn y gymdeithas.

Un o ysgolheigion disgleiriaf Rhydychen a'i golygai, ond nid dysgedigion a ysgrifennai iddo, ond llenorion gwlad; rhywun a wyddai hanes ei blwyf ei hun, a fedrai ddisgrifio golygfa o ben mynydd, a wyddai am hynodion hen bregethwyr, a gofiai bethau diddorol am ei blentyndod, a adwaenai adar a blodau, neu a deimlai ar ei galon lunio cân o dri neu bedwar pennill.

Golygai 'gwladwriaeth', yn ei hanfod, holl oblygiadau dinasyddiaeth dda mewn undod, gwasanaeth a gallu.

Golygai hyn y byddai 20% o'r set wedi bod yn ddi-Gymraeg, sydd yn awgrymu fod canu'n Saesneg yn bwysig iawn i Maharishi.

Golygai hyn hefyd wadu hawl unrhyw wlad arall, megis Lloegr, i orfodi'r Cymry i'w gwasanaethu'n filwrol.

Golygai mai dim ond un blaid fechan, plaid y Democratiaid Annibynnol (FDP), oedd llais yr wrthblaid o fewn y senedd, llais a oedd yn rhy wan i fod yn effeithiol.

Daeth i mewn â llygredigaeth a meidroldeb i amgylchedd dyn; ond golygai hefyd i'r union offeryn a allai arwain y cyfanfyd i gyrraedd ei gyflawnder a gwireddu ei botensial dwyfol, i'r offeryn hwnnw, dyn, fradychu ymddiriedaeth Duw gan fethu â chyflawni ei wasanaeth offeiriadol ar ran y byd.

Golygai hyn oll newid mawr yn y drefn, a llawer mwy o reolaeth gymdeithasol.

Golygai hefyd fod llawer o faich y fferm yn disgyn ar Mam.