Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

golygfa

golygfa

Roedd yn ymdeimlo â'r grym mewn golygfa ac yn cyfleu hynny, yn ei weithiau aeddfed, gydag eiddgarwch disgybledig.

Golygfa anghyffredin oedd a barai i'm dyweddi deimlo ei fod yn edrych ar olygfa o'r Canol Oesoedd.

Dal grym rhythmig golygfa fel y gwelai'r arlunydd ef yw'r nod y mae'n cyrchu ati trwy'r adeg ac nid cyfleu manylion penodol.

Wrth droi cornel o'r llwybr daw'r pen pellaf, o'r penrhyn i'r golwg, golygfa syfrdanol.

Cawsom hyd i'r tŷ aros mewn lle prydferth wrth odre rhaeadr anferth gyda golygfa odidog ar draws Karamoja.

Drannoeth ar ôl glanio yn Dubai, daeth Salim ataf gan ddweud wrthyf ei fod am ddangos golygfa ryfedd imi.

Griffiths, Golygfa'r Dyffryn, Trefriw.

Golygfa fythgofiadwy gyda'r baneri yn chwifio yn nwylo'r plant bach.

Yn yr ail act cawn nifer o olygfeydd gwrthgyferbyniol, un o olygfa o'r eglwyswyr yn cynllwynio sut i gasglu camdystiolaeth ac yn gwledda gyda'r ysbi%wyr ar ddechrau'u taith; golygfa arall o Bentre'r Bobol lle mae arweinwyr Ymneilltuaeth yn ymgasglu i weld beth sydd yn digwydd, ac yma y cawn Lywelyn y Bardd yn ffroeni bradwriaeth, a'r Annibynnwr, Davies, yn cymharu'r hyn sydd yn digwydd â hen Frad y Cyllyll Hirion, ac yna ambell olygfa ddoniol lle mae'r ysbi%wyr yn holi plant yr Ysgol Sul ac yn eu baglu â'u cwestiynau, gan geisio tystiolaeth i'w gwneud yn ymddangosiadol dwp, ond lle mae'r plant yn tybio bod yr ysbi%wyr yn rhai twpach.

Golygfa hynod y sylwasom arni yn ymyl y fan honno oedd gweld oenig na allasai fod yn fwy na diwrnod oed dilyn ei fam ar faglau o frwyn, a hithau'r famog wedi ei chneifio.

Bysgodyn tew Mae hi'n osgoi pechod, ond mae ef yn pechu lawn cymaint drwy wneud am ei hun mewn golygfa ddramatig lle mae'r ewyn yn torri ar y creigiau.

Golygfa nad â'n angof i bob cyfeiriad.

Golygfa i syfrdannu rhywun yn wir.

Gwynfor Griffiths, Golygfa'r Dyffryn, Trefriw.

Doedd 'na neb arall yno ar y pryd; a golygfa digon cyffrous oedd hi wrth i'r haul - gwantan braidd - foddi y tu ôl i gymylau llwydion cyn diflannu.

"Dydi awyr las a golygfa brydferth ddim yn llenwi bol neb," atebodd Tom yn chwerw.

Nid oes i'r ddrama raniadau yn ôl Act a Golygfa ond defnyddir cyfnewidiadau goleuo i alluogi i'r ddau grŵp o gymeriadau newid lle ar y llwyfan.

Golygfa wych!

Golygfa arall yn y ddrama yw gwneud osgo gadael - ar ôl dangos i'r gwerthwr fod gennych arian sychion yn eich waled.

Delweddau negyddol sy'n ein pledu yn ystod hanner cynta'r ffilm: yn wir, golygfa lom sy'n agor y ffilm wrth i Mona'r 'fenyw eis-crim' frasgamu drwy'r glaw fin nos i dŷ sinema'r Rex sydd a phoster uwch ei fynedfa yn hysbysebu'r ffilm nesaf a ddangosir: Coming Soon: Raiders.

Ymegyr golygfa ysblennydd wrth i ni ddod i olwg y llyn, yn goron o gopa%on a chribau miniog.

Un o ysgolheigion disgleiriaf Rhydychen a'i golygai, ond nid dysgedigion a ysgrifennai iddo, ond llenorion gwlad; rhywun a wyddai hanes ei blwyf ei hun, a fedrai ddisgrifio golygfa o ben mynydd, a wyddai am hynodion hen bregethwyr, a gofiai bethau diddorol am ei blentyndod, a adwaenai adar a blodau, neu a deimlai ar ei galon lunio cân o dri neu bedwar pennill.

Yn sicr, ni cheir golygfa fwy ramantus na heidiau o wyddau gwyllt yn croesi cynfas liwgar y machlud, a chefais gyfle i fwynhau hynny droeon ym Martin Mere.

Nid trwy lyfr yn unig yr ymledodd hanes Trystan ac Esyllt, ac o gofio poblogrwydd golygfa'r 'oed dan y pren' yn y cyfryngau gweledol, hynod yw nodi na adawodd yr elfen bwysig hon yn y fersiynau cyfandirol o'r hanes unrhyw ôl ar lenyddiaeth Gymraeg.

Craidd cyson hwnnw oedd ei ymgais i fynegi hanfod y profiad a gai wyneb yn wyneb â golygfa arbennig mewn gwahanol lecynnau ar wahanol adegau ar y dydd a gwahanol dywydd.

Golygfa hyfryd.

Rhaid prynu clamp o gerdyn yn dangos golygfa ganoloesol yn yr eira gan Breughel yr ieuenga'.

Golygfa anhygoel.

Ceir wedyn dair golygfa fanwl, sef yr un rhwng Margaret a'r Sgweiar; un rhyngddo ef a'i fam; un arall rhwng hen ledi'r plas a mam Margaret; a chyfweliad rhwng y Sgweiar a dau o'i ewythrod sydd yn ceisio dwyn perswâd arno.

Golygfa gyffredin yw nifer ohonynt gyda'i gilydd ar dir agored yn rhedeg a phrancio fel wyn bach, gan ymlid ei gilydd a neidio.