Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

golygfeydd

golygfeydd

Y bore wedyn roedd Merêd yn awyddus i fynd i grwydro naill ai ar hyd yr arfordir i gyfeiriad An Spideal neu i fyny'r dyffryn i gyrion Loch Coirib er mwyn cael mwynhau'r golygfeydd a'r tawelwch digymar; ond mynnodd Dilys gysgu ymlaen ar ôl cyfeddach y noson cynt.

Dangosodd James Evans nad oedd y meirwon wedi marw ac y byddent yn codi o'u beddau, yn union fel y golygfeydd hynny o filwyr yn atgyfodi yn ffilm Abel Gance, J'accuse, ym 1919.

Y sêr yn y ddrama oedd cyfaill da imi, John Ogwen gyda'i wraig Maureen Rhys, ac yn un o'r golygfeydd roedd bron yr holl gymeriade yn sefyll ar bont ac yn canu'r anthem genedlaethol.

Yn ardal Dolgellau hefyd, mae yna gyffro wrth i bobol edrych yn fanwl ar bob wyneb dieithr rhag ofn i Richard Gere neu Sean Connery alw heibio'r National Milk Bar am baned rhwng ffilmio golygfeydd o'r epig Arthuraidd, First Knight.

Y darluniad cywiraf a fedrwn roddi o'r golygfeydd ar y daith hon ydyw disgrifiad a roddir gan Solomon o faes a welodd ef yn rhywle: `Wele, codasai drain ar hyd-ddo oll; danadl a guddiasai ei wyneb ef; a'i fagwyr (goed) a syrthiasai i lawr; y palasau ydynt wrthodedig - yr amddiffynfeydd ydynt yn ogofeydd, yn hyfrydwch asynod gwylltion, yn borfa diadelloedd.'

Cawn hefyd ddisgrifiadau manwl o'r ffordd y mae trigolion yr ardal yn ymateb i ddiflaniad Margaret a hanes cyflawn y golygfeydd yn y capel pan gyfyd cwestiynau am ei hymddygiad.

Croesawai'r Eglwys gelfyddyd y paentiwr hefyd, a ymarferai â'i grefft ar y muriau gwyngalchog a darlunio golygfeydd Beiblaidd ac eglwysig yn lliwgar a byw; yn naturiol, fel yr âi tai'r ysgwi%eriaid yn fwy uchelgeisiol, câi'r paentiwr fynedfa iddynt hwythau'n ogystal.

Penderfynu mai gwyliau o orffwys, cerdded y mynyddoedd a mwynhau'r golygfeydd bob yn ail fydd hwn.

Nid yw yn dewis dangos i ni ddim o'r golygfeydd godidog sydd yn nodweddiadol o'r mannau hyn, ond yn hytrach bedwar cwt sinc - sydd, efallai, yn eu ffordd eu hunain yn fwy nodweddiadol.

Ni alwyd Greta'n 'slwt' erioed gan Paul, ac nid yw'r awdur chwaith mor nawddoglyd wrth lunio'u golygfeydd caru.

Byddai'n peintio lluniau dyfrliw o'r Eifl a'r Fenai a'r golygfeydd o amgylch, ac ni fyddai dim yn well ganddo na dod â nhw i'w dangos.

Mae Parciau Cenedlaethol i'w cael ym mhob rhan o'r byd ac wedi eu sefydlu i amddiffyn golygfeydd a bywyd gwyllt mwyaf gwerthfawr y gwledydd hynny.

Nid yw baby a kid yng ngeirfa Paul Greta, Lisabeth, na Harri; mae golygfeydd y sgrin fawr yn o bell o'u meddyliau hwy.

Roedd llygaid Bedwyr yn agored led y pen wrth iddo ryfeddu at y golygfeydd anghyfarwydd.

Ymddangosodd aelodau o'r cast yng Ngwyl y Gelli i berfformio golygfeydd o'r ddrama, tra y bur uwch gynhyrchydd David Ian Neville yn cynnal gweithdai awduron i ddilynwyr brwd yr opera sebon.

Cawsom ychydig o gyfle felly i fwynhau golygfeydd hardd, o dan heulwen cynnes Bohemia.

Mae ffilmiau epig a hanesyddol yn boblogaidd nwan ac mae llwyddiant Hedd Wyn wedi rhoi Cymru ar y map fel lle sydd â golygfeydd gwledig dramatig ac wedi profi bod gynnon ni adnoddau ac arbenigrwydd i'w cynnig." Mae gan Gyngor Gwynedd staff arbennig sy'n canolbwyntio ar geisio profi bod heip Sgrîn Cymru yn wir.

O'i fewn gwelir golygfeydd hyfryd naturiol, nid o waith llaw, ac hefyd batrymau hynod o bleserus o weithgarwch dyn ar hyd yr oesau.

Rhaid canmol y defnydd o sgrîn fawr yn ystod y golygfeydd cynnar ar olaf ond un.

Ceisiai sugno i'w berfedd y golygfeydd gwibiog, hyd nes y brawychwyd ef gan gip ar gloc talu'r cerbyd.

Yn ei gerdd 'Washington ', mae Gerwyn Williams yn mynd â ni yn ôl at un o'r golygfeydd mwyaf dychrynllyd a welwyd yn yr ugeinfed ganrif.

UN O'R golygfeydd mwyaf erchyll a welais oedd gweld Windscale o ben mynydd Scafell yn Ardal y Llynnoedd.

Ymddangosodd aelodau o'r cast yng Ngwyl y Gelli i berfformio golygfeydd o'r ddrama, tra y bu'r uwch gynhyrchydd David Ian Neville yn cynnal gweithdai awduron i ddilynwyr brwd yr opera sebon.

`Un o'r golygfeydd mwyaf cyffrous a welsom yn New York oedd gweld un o'r byddinoedd - o leiaf, y gweddill ag oedd yn fyw o un o'r byddinoedd - yn cerdded drwy y ddinas ar eu ffordd tuag adref o faes y rhyfel.

Ceir golygfeydd trawiadol o'r tir a'r môr, a cheir cipolwg ar hen feini o'r oesoedd cynnar, cestyll yr Oesoedd Canol, capeli a bythynnod gwyngalchog bychain.

Yn naturiol, mi aethon ninnau yn y car i weld y lle ac yno y gwelais un o'r golygfeydd mwya' trawiadol.

Un o'r golygfeydd gwleidyddol rhyfeddaf o fewn cof i mi oedd y lluniau hynny ar y teledu o Gerry Adams, arweinydd Sinn Féin, yn annerch seiswn cyntaf Cynulliad Gogledd Iwerddon mewn Gwyddeleg gyda'r Parchg Ddr Ian Paisley a'i giwed yn edrych arno'n hurt.

Ond yn union fel y mae angen y golygfeydd, y setiau a'r actorion eraill ar y rhan fwyaf o berfformiadau theatr i gadw diddordeb y gynulleidfa, felly y mae angen pob cymorth posibl ar y rhan fwyaf o athrawon a darlithwyr i ennyn diddordeb eu dosbarthiadau - yn arbennig mewn pwnc lle tuedda pynciau i fod yn gymhleth ac yn amhosibl eu datrys, yn ôl pob golwg, ac sydd hefyd mor wahanol i'n problemau ninnau yng Nghymru yn yr wythdegau.

Cafodd y sgiliau technegol a fu ynghlwm wrth wireddu'r project hwn - gan gynnwys golygfeydd cyffrous y naid ei hun - ganmoliaeth ar bob lefel.