Yn ystod teyrnasiad ei dad y darganfuwyd olew yno, ac yn naturiol golygodd hynny newidiadau mawr yn y wlad.
Golygodd y datblygiad gydweithio clos rhwng gwyddonwyr o gefndiroedd tra gwahanol yn ffisegwyr, cemegwyr, metelegwyr, a pheirianwyr electroneg, ac mae'r cydweithio hwn yn parhau i fod yn un o nodweddion y maes hyd heddiw.
Golygodd hynny waith codi'r gwrthglawdd i gronni'r llyn, gosod yr holl offer angenrheidiol i wneud dŵr llyn yn ddŵr yfed, ac yna rhychu'r Penrhyn ar ei hyd ac ar ei hytraws fel agor pennog i osod y pibellau mawr a'r pibellau man ohonynt i ddod a dwr i gyrraedd pawb.
Ysywaeth, gyda'n bod yn medru cynnig gwasanaeth Canfod Arian (FUNDERFINDER) trwy gyfrwng rhaglen gyfrifiadur golygodd y cynnydd sylweddol yn nifer yr ymholiadau nad oedd yn bosib wedyn i ymateb i gais o fewn tri diwrnod.
Wrth feddwl am drobwyntiau bywyd Daniel Owen, anodd credu fod yr un trobwynt wedi bod yn bwysicach na'i brentisio'n deiliwr gydag Angel Jones, blaenor gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, oblegid fel y cyfeddyf ef ei hun, gwnaeth hynny'r byd o wahaniaeth iddo yn foesol ac yn ddeallusol - yn foesol, oherwydd golygodd fod rhaid iddo fynd i'r capel dair gwaith ar y Sul ac i bob moddion yn yr wythnos yn y cyfnod pan oedd yn dechrau ymryddhau o lyffethair awdurdod ei fam, a phan oedd ei frawd Dafydd efallai'n dechrau mynd ar gyfeiliorn, - yn ddeallusol am yr un rheswm ac am fod gyda'r hen Angel 'hanner dwsin o ddynion call, sobr, a darllengar, a bu (bod gyda hwy) yn fath o goleg i mi'.