Honno yw'r aelwyd sy'n cyfrif; yr aelwyd sy'n sefyll yn ddigryn ar gonglfeini teyrngarwch a diolchgarwch.
Pe collid yr ysgolion hyn, a'r plant yn cael eu symud i ysgolion mewn pentrefi eraill yn ôl cyfleustra gweinyddwyr a chyfrifwyr, byddai'r plant yn cael eu hamddifadu o rai o gonglfeini'n haddysg gynradd - sef y sicrwydd o berthyn a chael eu hadnabod a'r gallu i gydweithio.
Fe welodd y grwp eu cyfnod prysura ar ddechrau'r 90au - erbyn hyn wedi hen sefydlu ac yn mynd o nerth i nerth gan fod, bellach, yn un o gonglfeini'r sîn gerddoriaeth yng Nghymru.
Y mae ei gamgymeriadau, meddai, 'yn difwyno llyfr hanes sydd, mewn cyfeiriadau eraill, yn gampus.' Y mae David Powel yntau yn cydnabod bod peth sail i'r amheuon ynghylch bodolaeth Arthur, un o gonglfeini'r hanes Brytanaidd, yn ogymaint a'i fod wedi'i gymysgu a 'ffug-chwedlau' a 'phroffwydoliaethau ynfyd Myrddin', ond eto i gyd, deil yn gadarn ei gred yng ngwirionedd sylfaenol yr hanes: 'y mae'n glir nid yn unig wrth y llu hen gofebau sydd wedi cael eu henw oddi wrth Arthur, ond hefyd wrth yr hanesion Sgotaidd a Sacsonaidd ac ysgrifeniadau'r mwyaf dysgedig ymhlith amddiffynwyr yr hanes hwn, fod yr Arthur hwnnw wedi bod yn frenin ar Brydain, yn ddyn amlwg ei glod mewn rhyfel, ac iddo'n fynych fod yn fuddugoliaethus ar ei elynion trwy ei gampau tra rhagorol'.