Mi ddaru Defi John ddringo i nôl rhai, i gael gweld, ac wedi i ni'u cracio nhw'n 'gorad hefo'm dannadd, doedd yna ddim byd ond rhyw ddotyn bach gwyn, meddal, yn y rhan fwya ohonyn nhw.
Mi oedd Mrs Robaits wedi nodio i gysgu go iawn, a'i cheg hi'n gorad, a'r peth nesa oedd i un o'r cregyn 'ma landio yn 'cheg hi.