Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gorchwyl

gorchwyl

Fe ddangosodd y rhain barch i'r gorchwyl a osodwyd iddynt gan fy mam, a thrwy hynny parchasant fy mam hefyd.

A chlywed am yr hwch a'i pherchennog wnaeth o, ar y cynta', yn hytrach na'u gweld nhw, ac o ganlyniad, bu'n rhaid i'r ddau duthio ar ôl y bus am gryn hanner canllath neu well cyn cael mynediad iddo.) Gwaith digon dyrys oedd cael hwch i ddal bus o dan amgylchiadau cyffredin ond pan oedd honno â'i hanner ôl wedi'i glymu mewn bag peilliad roedd y gorchwyl yn anos fyth.

Ac yr oedd yn yr un adeilad wraig dlawd a'i gorchwyl ydoedd glanhau lloriau swyddfeydd, a'r grisiau a gysylltai loriau gwahanol yr adeilad hwnnw.

Heddiw, nid oes reidrwydd ar neb i wlana ar ffriddoedd bro fy mebyd, ac y mae'r gorchwyl pleserus o dorri mawn yn darfod o'r tir.

Gorchwyl galed iawn oedd hon fel y cewch weld ymhellach ymlaen.

Canlyniad hyn oll oedd iddynt gynnal parêd ar ôl parêd, er mwyn iddynt ein cyfrif sawl gwaith yn ystod y dydd, a chan fod tros bedair mil ohonom cymerai'r gorchwyl hwn amser maith.

A'r diwrnod gwaith ar ben, a'r gof, yn ŵr lluddedig, wedi rhoi o'r neilltu ei ffedog ledr, eto, 'roedd un gorchwyl yn ei aros, sef rhoi i lawr yn ei lyfr cownt fanylion am bopeth a wnaeth i'w gwsmeriaid yn ystod y dydd.

Oherwydd hynny, pan fyddai'n fater o frys, a gorchwyl arbennig i'w gwblhau ar unwaith, byddai'r stiward yn gosod y gwaith 'ar gontract' i Francis gan wybod y byddai'r adeilad ar ei draed mewn chwinciad .

ei oes i'r gorchwyl o geisio dehongli - ac amddiffyn - gorffennol ei genedl'.

Cyfaddefodd wedyn fod y syniad y gallai ef gael cais i gyflawni'r gorchwyl ei hun yn un mor anghredadwy iddo fel nad edrychodd eilwaith ar y bwletin.

Ar un adeg, fe geisiai'r wardeiniaid fod yn drugarog wrth gyflawni gorchwyl mor annymunol, a phenderfynwyd mewn rhai achosion mai'r drefn fwyaf dyngarol fyddai lladd y rhai hþn o fewn yr haid, a diogelu'r rhai ieuengaf.

Brithir y dogfennau â chyfeiriadau o bob math at ymateb y Wyniaid i'w hamgylchfyd a chyfnewidiadau arbennig y cyfnod, a'r gorchwyl pennaf iddynt oedd ceisio dyfnhau'r ddelwedd arbennig honno a'u clymai wrth yr haen fonheddig yn Lloegr.

Gan fod Harri yn þr mor amlochrog gorchwyl digon di-drafferth oedd chwilio am reswm i'w urddo'n Dderwydd.

Ond buan iawn y canfyddwyd y llwybr gwreiddiol, ond roedd gwthio'r casgenni ar ei hyd yn llawer caletach gorchwyl nag oedd hi ar hyd y llwybr arall.

Gorchwyl bardd, ebr ef, yw efelychu dynion yn gweithredu, eithr gan ddewis o fywyd y pethau hynny sy'n hanfodol i greu prydferthwch newydd.

Gofynnodd i Dduw ei harwain yn a gorchwyl.

Ar derfyn y driniaeth 'roedd Pengwern wedi rhoi cusan iddi am ei bod yn gorfod gwneud gorchwyl mor

Fi gafodd anrhydedd amheus y gorchwyl o brofi'r ddyfais.

Rhyw bump neu chwe troedfedd roeddynt yn ei dyllu mewn diwrnod, felly gwelwch mai gorchwyl go araf oedd hon.

mae'r naratif yn ceisio amgyffred ac amlennu'r teimlad gwasgaredig, drylliedig, amrywiol hwn sy'n perthyn i'n dyddiau ni gorchwyl amhosibl, wrth gwrs ).

Roedd gorchwyl J.

Daeth gorchwyl digon annifyr i'm rhan ar ôl te, sef gorfod dweud wrth y ferch hynaf þ sydd yn ei thrydedd flwyddyn yn yr Ysgol Gyfun þ na fedraf fforddio iddi gael mynd hefo criw o'r ysgol i'r Swistir yn ystod gwyliau'r Pasg.

Cymerid gofal eithriadol wrth baratoi'r t~,vll neu'r agen, a dim ond y chwarelwyr mwyaf profiadol a ddewisid i ymgymeryd â'r gorchwyl.

Ac nid gorchwyl hawdd yw honno i bobl sydd yn gweihio ym myd cadwraeth, ac yn amddiffynol o unrhyw anifail wrth reddf.

Ar gais 'caredigion Y Llenor' y mentrodd Gruffydd ar y gorchwyl.

Ond wedi dychwelyd i'w lety ymfwriodd yn fwy angerddol nag erioed i'w lyfrau, a rhyfeddu bod cymaint o hwyl i'w gael yn y gorchwyl o'i gymharu a'r baich a fuasair'r pwnc iddo pan oedd yn llencyn ysgol.

At y gorchwyl hwn roedd yn gorfod cadw tennyn (llinyn mesur) at ei wasanaeth er mwyn gwneud gwaith cymen a chywir.