Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

goresgyn

goresgyn

Goresgyn problemau gyda darllenwyr araf.

Dim ond gelynion Cymru a Chymreictod sy'n honni y buasai'r cenedlaetholwyr Cymreig wedi cydweithredu'n llon â'r Ellmyn petai lluoedd Hitler wedi goresgyn Prydain.

Fel gr^wp maen nhw'n trafod y rhwystrau sy'n eu hwynebu wrth geisio ymuno'n llawn a bywyd y gymuned ac yn ystyried ffyrdd y gellir goresgyn y rhwystrau hyn.

Dêm Fira Lyn, os da y cofiwch, a ganai'n bersain am y glas adar a ehedai dros wyn elltydd Dover pan oedd y Wlad yma mewn dirfawr berygl o gael ei goresgyn gan estroniaid oerwaed o wlad arall ddrwg.

Cytunwyd y dylid rhoi blaenoriaeth uchel i Gynllun Darllen Graddedig yn yr ail iaith; dd) bod angen goresgyn yr anhaster o ledu cynllun darllen o un sir i'r llall; e) bod yr Uned Iaith yn gwneud cais i'r Swyddfa Gymreig am Swyddog Cynradd a fyddai'n ymwneud â mamiaith ac ail iaith.

Yn ystod y flwyddyn, tynnwyd sylw'r Swyddfa Gymreig yn gyson at bwysigrwydd y cynlluniau sydd gan yr awdurdodau i gynnal gwasanaeth athrawon bro a sefydlu canolfannau i hwyr-ddyfodiaid er mwyn goresgyn anawsterau sy'n codi o brinder athrawon a mewnlifiad disgyblion di-Gymraeg i ardaloedd Cymraeg.

Milwyr a thanciau o Rwsia yn goresgyn Prag.

Yn wir, pan fyddai morladron yn goresgyn llongau Sbaen un o'r pethau cynta fydda nhw'n i wneud, ar ôl lladd a mwrdro'r dynion a gwenu'n hyll ar dywysoges efo'u cyllyll yn eu cegau a hen hedsgraff eu nain am eu pennau, fyddai taflu'r sacheidia Cacao dros y bwrdd i'r eigion.

Erbyn heddiw hawdd credu y buasai'n beth da i Gymru pe bai Napoleon wedi goresgyn Prydain Fawr; ond ar y pryd codai fwy o ofn ar y bobl nag a wnâi'r Caisar neu Hitler y ganrif hon.

Ac eto 'roedd yna rhywbeth ynof oedd yn goresgyn hyn hefyd.

Hefyd doedd cleifion oedd wedi goresgyn eu salwch ddim wedi eu cynnwys, ac oherwydd y ddau bwynt yna daeth galwadau am ymchwil annibynnol.

Ar yr un pryd, mae maint a chyflymder newid yn rhoi herion difrifol y mae'n rhaid eu goresgyn os yw Cymru i lwyddo yn y mileniwm newydd.

Ac o feddwl eto, byddai wedi bod yn beth ofnadwy petai gwyn elltydd Dover wedi eu goresgyn gan luoedd atgas yr Elmyn.

Mae'r goron yno i'n hatgoffa bob dydd mai cenedl wedi ein goresgyn ydym.

Cyn dyfodiad y clwy Myxomatosis yr oedd y wlad yn gyffredinol wedi ei goresgyn ganddynt ac yr oedd miliynau yn cael eu dal a'u gwerthu - eu trapio a'u maglu lawer ohonynt, ac oherwydd hynny yr oedd eu gelynion naturiol megis bronwennod, gwenci%od, ffwlbartiaid, cathod a chŵn hwythau yn cael eu dal.

Ymysg y prosiectau a gymeradwywyd gan Bwyllgor Monitro Rhaglen Dyfed,Gwynedd, Powys yw'r prosiect hwn ac felly yn dilyn ystyriaeth bellach yr wyf yn falch o ddweud fod y problemau hyn wedi eu goresgyn ac y bydd yr astudiaeth yn mynd yn ei flaen yn awr.

Yn ffodus mae gweithwyr y gwasanaethau achub, trwy eu medr a'u dewrder yn medru goresgyn pob math o broblemau er mwyn achub bywydau.