Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

goreu

goreu

Dyna fe, ddarllenydd - yn llafn main, tal, teneu, gwledig, - mewn gwisg ddiaddurn a digon cyffredin yn dyfod trwy ddrws y capel - am dano y mae coat winlliw o frethyn gwlad wedi ei wau yn lled fras, a hono wedi gweled ei dyddiau goreu; ac oblegid ei fod wedi tyfu ar ol ei chael, edrychai yn fer a chwta - gwasgod o stwff ac un rhes o fotymau yn cau i fynu yn y glos am ddolen ei gadach India oedd yn dorch am ei wddf - llodrau o ffustian rhesog; a phar o esgidiau mawrion cryfion, gyda dwbl wadnau am ei draed, wedi eu pedoli yn ol ac yn mlaen; a'u llenwi â hoelion, ac ymylau hoelion y rhesau allanol yn amgylchu ymyl y gwadnau, fel y gallesid tybio y buasai eu cario yn ddigon o faich i unrhyw ddyn, heb sôn am gerdded ynddynt.

Nid ydym wedi cael un Binney i'n dysgu i blygu yn wylaidd syn yn yr olwg ar y 'Goleuni Tragwyddol', nac un Alford i'n galw gyda 'Forward be our watchword' i adael ofn y diffydd, a gweled goreu Duw a dyn yn y dyfodol; ac ni chawsom un Newman i weddio gyda ni am arweiniad yr 'hawddgar oleuni'.

Holl bleser hen bobl fyddai casglu at ei gilydd wrth dân mawn o dan yr hen simdde fawr ac am y goreu chwedl a'r mwyaf dychrynllyd ei stori.

Gellid dibynnu arno i gymeryd y gwasanaeth pan fyddai adref, a bu yn deyrngar ryfeddol i'r Cartref ar hyd y blynyddoedd gyda dim ond y gair goreu am y gofalwyr a'r staff.

Hwn yw deunydd trasiediau goreu'r byd, gwaith Shakespeare a Racine.