Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gorffen

gorffen

"Os y dyn sy'n gorffen y berthynas, byddai'n rhwbio halen yn y briw i ofyn am y fodrwy yn ôl," meddir.

Ar ôl gorffen dadlwytho aethant i Newcastle i lwytho glo ac yno ymddiswyddodd y Capten ond bu mor garedig â chymeradwyo'r Mêt i'r cwmni fel dyn da i gymryd ei le ac felly dyrchafwyd Mr Hughes yn Gapten yn fuan iawn ar ei yrfa gan afael yn y cyfle â'i ddwy law.

Yr actor sydd wedi cael y sylw mwyaf yn y ffilm mawr newydd, Gladiator, ydi Oliver Reed - yn rhinwedd y ffaith iddo fo farw cyn gorffen ffilmio.

Dim problem--swper hyfryd iawn, a chofio troi'r botwm ar y wal ar ôl gorffen y coginio.

I ymosodwr Wrecsam, Lee Trundle, ddaeth yn seren dros nos ers ymuno â Wrecsam o'r Rhyl, mae'r tymor wedi gorffen yn siomedig.

Sawl tro yng nghynffon y gân maen troin offerynnol cyn i'r llais ddod i mewn eto ar gân yn gorffen gyda swn chwibanu.

Ond nid oedd yr hen ŵr wedi gorffen.

Cadwai'r bocs o'i flaen ar y bwrdd nes gorffen yr uwd.

Mi wnawn ni drefniadau i gadw hwsmonaeth ar y fferm hyd fis Gorffennaf; erbyn hynny mi fyddi di wedi cael cyfle i feddwl ac mi fyddi wedi cael gorffen yn yr ysgol, ac os byddi di am newid dy feddwl mi fedri fynd i goleg." Gwyddai Alun oddi wrth yr olwg styfnig yn ei hwyneb nad oedd wiw iddo ddadlau â hi, roedd hi wedi penderfynu.

A fyddai dim rhaid cael dþr a brws bras i'w sgwrio hi ar ôl gorffen chwaith.

Mae'r Trydydd Prawf rhwng De Affrica ac India'r Gorllewin wedi gorffen yn gyfartal.

Ond Marcus Gronholm o'r Ffindir yw Pencampwr y Byd ar ôl gorffen yn ail.

Ond roedd Cymrun gorffen eu symudiadau yn ddychrynllyd ac mewn gwirionedd roedd bron bob agwedd ou chwaraen ddiffygiol.

Mynd yno wnes i i weld criw o weithwyr yn gorffen codi pentre' Celtaidd - tri thŷ crwn nodweddiadol o'r cyfnod cyn hanes, wedi'u rhoi at ei gilydd gyda dulliau mor debyg â phosib' i ddulliau'r Celtiaid .

Ffanffer ydyw sy'n gorffen yn ddisymwth, fel y gwnaeth, yn ôl y chwedl, ganrifoedd yn ôl pan laddwyd y trwmpedwr a oedd wrthi'n rhybuddio'r trigolion fod milwyr estron y Tartar gerllaw'r ddinas.

Ar ol gorffen, yr wyf yn cofio fod Anti yn disgyn o'r llwyfan gyda help y Parch Tudur Evans.

Yn wir, yr oedd wedi gorffen, a llawysgrif Trysor Plasywernen yn fy llaw.

Ac eto onid i Lety'r Bugail yr ai hi weithiau gyda'r hwyr ar ol gorffen gorchwylion, i freuddwydio?

Daeth Robin draw i'r garej unwaith i chwilio am waith, ac erbyn hyn bws undyn oedd hi; 'roedd yr hen drefn o fod yn ofalydd i gychwyn ac yna mynd ymlaen i ddreifio wedi gorffen.

'Doedd Karen ddim yn fodlon o gwbl i fyw fel 'roedd ei mam yn dymuno iddi wneud - gadawodd yr ysgol cyn gorffen ei lefel A gan fynd i weithio i gaffi Meic Pierce.

Mae'r ddadl hon yn un gref, ond buaswn i'n dadlau bod y Llywodraeth, os oedd hi'n chwilio am ateb i broblemau cymdeithasol Cymru, wedi gorffen trwy gael rhywbeth gwahanol a hollol anghyson â'i theithi meddwl.

Bydd y gêm yn gorffen fory.

Mae arna i ofn gynddeiriog iddi hi setlo acw am 'i hoes." Tra oedd fy nghyfaill Williams yn gorffen y bara-llaeth, ac wedyn yn ysmygu wrth y tân, ceisiasom feddwl am ryw gynllun i yrru Anti Lw ar symud.

Mae e yn y gêm yn gyflym ac yn gorffen y ceisiau bant yn arbennig o dda.

Fe dyfodd yn arfer iddo ef fynd i'r ystafell ymolchi o'i blaen hi a rhoi cnoc ar ddrws yr ystafell wely fel arwydd ei fod e wedi gorffen yno, cyn iddo droi i'r ystafell fyw i gysgu.

Ar ôl iddo adrodd yr hanesyn wrthyf ryw noson, fe syrthiodd ysbaid hir o ddistawrwydd rhyngom (fel a ddigwyddai'n aml), ac yn ystod y distawrwydd hwnnw dyma fi (a oedd yn Meuryna llawer yn y dyddiau hynny) - yn ceisio gorffen y cwpled.

Erbyn hyn mae "Bermo yn y Nos" wedi gorffen ei thaith a nifer ohonoch mae'n siŵr wedi colli'r cyfle i'w gweld.

Methodd Yr Albanwr, David Coulthard, a gorffen.

Erbyn iddi hi ymuno ag e, roedd wedi gorffen ei frecwast ond cynigiodd ffonio am goffi ffres.

Fe gawson nhw lawer mwy o gyfleon ac fe fyddan nhw'n siomedig â safon cyffredinol eu gorffen.

Does bosib mai cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith fod cynifer o straeon Harri Pritchard Jones yn gorffen ar derfyn dydd, a weithiau'n wir ar derfyn bywyd.

Am yr eildro yn ystod fy nghyfres ysgrifau rwyf am ddwyn sylw at fy awgrym blaenorol o beidio dilorni a dibrisio dail tê wedi gorffen eu pwrpas mewn tebot.

(b) yn dechrau â'r diwrnod y bydd y newid yn effeithiol ac yn gorffen â'r diwrnod cyn dyddiad effeithiol y newid nesaf, neu (os na fydd) â'r flwyddyn,

Mawr y llawenydd fydd gweled eu hwynebau melynion wedi cael byw i ddychwelyd - a dychwelyd yn fuddugoliaethus, dychwelyd wedi gorffen eu gwaith!

Am yr ail dro yn ei fywyd bu'n rhaid i Owain ap Thomas ap Rhodri adael y dasg o hawlio ei etifeddiaeth yng Nghymru heb ei gorffen.

A bydd cyfle i bobol mewn swyddi ddod i'r criced ar ôl gorffen gwaith.

Yr oedd Elis Wynne ar y pryd yn gorffen ei gyfieithiad o Reol Buchedd Sanctaidd Jeremy Taylor.

`Pan fydd y plant yn gorffen fan hyn, fe fyddan nhw'n ymuno â'r pwyllgorau chwyldroadol ac fe fyddan nhw'n barod i ymgymryd â gweithredoedd chwyldroadol - yn y byd Arabaidd a'r tu hwnt.

Yn yr un cywair dymuna ei mam, Mrs Hilda Campbell ddiolch o galon i'w ffrindiau am yr anrhegion a chardiau yn dymuno yn dda iddi pan yn gorffen ym Mrig-y-Nant yn ddiweddar.

Ar ôl gorffen gwneud y bwl byddai'r gof yn gosod dau gylch haearn amdano yntau.

Pa ryfedd fod y gerdd yn gorffen trwy ail-lunio'r cwpled elegiaidd a ddefnyddiodd cynt: Ba enaid ŵyr ben y daith?- Boed anwybod yn obaith!

Yna byddai rhywun yn gofyn beth ddigwyddodd wedyn, achos fe fyddai'r stori'n gorffen yn swyddogol pan fyddai Owen yn dweud nad anghofiodd e ddim rhoi gwellt o dan y bustych cyn

Wrth i un rigiwr godi o'i giando i fynd ar ei shifft byddai un arall yn barod i neidio i'r un gwely wedi gorffen ei shifft ef.

Fel hyn y mae'r gerdd yn gorffen:

Ni wyddai pa mor hir y buont yn cusanu ond wedi gorffen roedd o ar dân eisiau dechrau eto.

Kelly heb Stu a Rich: Cafwyd cadarnhad y bydd Kelly Jones o'r Stereophonics yn teithio ar ei ben ei hun fis Tachwedd gan gychwyn yn Nulyn ar Dachwedd 13 a gorffen yn y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd, Tachwedd 24.

A phopeth yn barod, ni fyddai'r gof fawr o dro cyn gorffen ei waith o bedoli'r ceffyl.

Ann's a gorffen wrth Tŷ'r Inclein, dros y ffordd i'r Amlosgfa.

Er bod y gßn yn gorffen mewn tri munud maen ail gychwyn eto ddau funud yn ddiweddarach.

Roedd yna ddryswch ynglyn â phryd oedd y tymor yn gorffen.

Rhaid imi gychwyn a gorffen sgrifennu'r ddarlith hon cyn cyhoeddi ystadegau'r cyfrifiad a fu y llynedd ar y Cymry Cymraeg yng Nghymru.

Erys dau ddigwyddiad gwerth eu nodi cyn gorffen y braslun hwn o hanes y gweithredu gwleidyddol.

Wedi gorffen ei ginio, prysurodd allan i'r coridor.

Un dydd Gwener ar ddiwedd darlith olaf y bore dyma JE Daniel, ar ôl gorffen darlithio ar Athrawiaeth Gristnogol, yn dod ataf ac yn gofyn imi fynd gydag ef y noson honno i annerch cyfarfod y Blaid yn festri Capel Maes y Neuadd, Trefor.

Ni feiddiai Mathew symud modfedd rhag ofn na fyddai'r hen ŵr yn gorffen ei stori.

(a) yn dechrau â'r flwyddyn ac yn gorffen â'r diwrnod cyn dyddiad effeithiol y newid yn y flwyddyn, neu

Stori Sam yw pen y daith sy'n qchwyn gyda Tomi Sarah Jos; mae'r deyrnas wedi ei gorffen.

'Wyt ti wedi gorffen?

Cafodd y fam fyw i weld y plant wedi gorffen eu haddysg.

Yn lle rhethreg sicr, soniarus, mae'r ymadrodd yn gwyro tua'r llawr, yn gorffen mewn sibrydiad.

Yr oedd yr unig ffordd i sicrhau y byddent yn cael gorffen brawddeg.

'Rwy'n methu cofio pwy ddywedodd wrthyf ar ôl i'r Weinyddiaeth daflu dŵr oer ar ein cynlluniau: "Dyna ti wedi gorffen 'nawr .

Yna cyrhaeddodd Dolgarrog cyn nos a chael "gwydriad neu dau yno, cyn mynd yn ei flaen i'r Royal Oak a'i gorffen hi yn Y edol yn Nhalybont.

Erbyn bod Penri'n gorffen ei goleg, yr oedd y to cyntaf o esgobion a benododd Elisabeth yn prysur gilio i'r cysgodion.

Mi fydd wedi gorffen cyn i neb sylweddoli beth fydd o'n ddweud - a fydd neb yn malio dim.

Ond cafodd hyd i ramadeg Saesneg cyn gorffen trechu cyfrinion y gynghanedd, a math o ddisgybl yspâs arhosodd byth.

Ar ôl gorffen fe roddai'r saer coed fesur amgylchedd yr olwyn i'r gof.

Yr oedd bwrdd crwn ynghanol yr ystafell, o bren tywyll, bron yn ddu, a'r traed yn gorffen mewn siap palf llew.

Y fi yn gorffen fy nhaith lle dechreuodd taith y Gwladfawyr.

Am dri mis, fe aeth popeth yn 'i flan fel arfer - Luned yn dechre'i gwaith am naw ac yn gorffen am whech, ond roedd pawb ohonon ni wedi sylwi fod rhyw newid ynddi hi.

Y mae ef yn cael swyddi dros dro, ar safleodd adeiladu mawr, yna bydd yn ddi-waith pan fydd y swydd wedi gorffen.

Yn aml iawn gelwir ei rhan uchaf yn Gafrogwy neu'n Frogwy, sy'n enghraifft arall eto o enw ar nant ym Môn sy'n gorffen â'r terfyniad 'wy'.

Wedi gorffen ei gwrs addysg, cafodd Edwin alwad i Salem, Bae Colwyn.

"Faint o fwyd fydd ar eu byrddau nhw tybed?" Cyn iddi gael gorffen yn iawn daeth y dyn ar eu gwarthaf.

Dechreuodd Karen fynd allan gyda Steffan am gyfnod ond aeth pethau o chwith wrth i Karen geisio gorffen gyda Steffan.

Es ato am sgwrs ac mi ddywedodd: "There's no connection, it's just that it's thirsty work driving the bus." Ar ôl gorffen yfed, aeth y ddau ohonom i'r bws a pharhau'r daith - heb neb yn cwyno nac yn holi cwestiynau.

Ond yn suth ar ol gorffen Y Wisg Sidan bydd cwmni arall o Gaernarfon, Ffilmiau'r Nant, yn symud yno i ddechrau ar y gwaith o baratoi cyfres arall ar gyfer sianel pedwar.

Ond nid oedd ei fam wedi gorffen.

Yn y cyfamser, roedd y galwadau'n cynyddu o du cymdeithasau a chwmni%au drama lleol, a'r sgrifennu'n cael ei wneud yn oriau mân y bore ar ôl gorffen gwaith y dydd yn y garej.

Rwyn credu byse hi'n well se ni wedi gorffen Gemau Heineken i gyd ond dyw hwn ddim yn rhywbeth estron i ni.

Ond rhag rhoi'r argraff fod y bai i gyd ar y darllenwyr am beidio â sylwi ar lithriadau o eiddo'r golygyddion prysur, cystal gorffen trwy ddweud fod lle i gredu i un golygydd gael ei ddiswyddo gan y BBC am gyfieithu mai haid o wenyn oedd y "buzzard" a ymosododd ar fachgen o'r Canolbarth !

Er hynny, y mae'n gwbl addas fod y llyfr yn gorffen gyda bwrw golwg ar oblygiadau'r digwyddiadau syfrdanol yn nwyrain Ewrob i'n bywyd ni yng Nghymru.

Ymhen rhyw ddeng munud mae'r gêm yn gorffen, a'r twyllwr, yn naturiol, sydd wedi ennill.

'Pan fyddan nhw'n gorffen fan hyn,' atebodd Ismail, 'byddan nhw'n ymuno â'r pwyllgorau chwyldroadaol, a byddan nhw'n barod i ymgymryd â gweithredoedd chwyldroadol - yn y byd Arabaidd a'r tu hwnt.

Codai egwyddor 'reserve' yn naturiol allan o astudiaeth y Tractariaid o weithiau'r Tadau Eglwysig, sef cadw'n ôl y gwirionedd mwyaf cysegredig a dirgelion y Ffydd hyd nes y byddai'r 'dysgwyr' yn y Ffydd Gristnogol wedi gorffen eu cwrs o hyfforddiant ac wedi'u dangos eu hunain yn gymwys i'w derbyn.

Yr arferiad oedd trochi sach trwm, fel yr un a arferid ei ddefnyddio i gario grawn ar ddiwrnod dyrnu, yna ei hongian dros glwyd y cae yn union ar ol gorffen aredig.

Wel, meddwn wrthynt, mae'r Hindw yn India yn marw o newyn pan fo'r ŷd wedi gorffen er fod yr holl wartheg o'i gwmpas.