Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gorfforol

gorfforol

Erbyn diwedd Tachwedd yr oeddwn i fy hun yn wan yn gorfforol.

Ar y llaw arall, dwi ddim eisiau ei weld yn rhedeg at ei athrawon ai hyfforddwr bob tro y mae pethaun mynd braidd yn gorfforol.

Ni iacheais mohono'n gorfforol.

'Maen mynd i fod yn gêm galed dros ben, yn gêm gorfforol.

Dim ond y ffaith eu bod yn sownd yn eu seddau ac allan o gyrraedd ei gilydd a'u cadwodd rhag ymladd yn gorfforol, ac oni bai ei bod yn teithio ar raddfa o saith deg milltir yr awr ar draffordd brysur byddai Carol wedi troi rownd yn ei sedd ac ysgwyd y ddau ohonynt - er na fu iddi erioed wneud y fath beth o'r blaen.

Maen nhw'n anghofio natur gorfforol sylfaenol y gêm ac os ydyn nhw'n anghofior elfen hon fe ddylsent fynd i chwarae rhywbeth arall.

Gafaelodd yn ei dwylo a'i thynnu'n ddiseremoni ar ei thraed a chyn iddi hi ddeall yn iawn beth oedd yn digwydd, cododd hi'n gorfforol a'i chario 'nôl i'r bwthyn.

Yr oedd yn Sarah Owen, meddai ef, 'ryw ddefnydd anghyffredin', nid yn unig yn gorfforol - cerddodd bedair milltir a deugain un diwrnod gwresog gan gario plentyn ar ei braich y rhan fwyaf o'r ffordd - eithr hefyd yn feddyliol, oblegid er ei bod yn anllythrennog, yr oedd ganddi gof cryf a chariai lawer o lenyddiaeth arno.

Y peth pwysig oedd mod i'n cyrraedd dan fy stem fy hun: yn gorfforol annibynnol ac yn y prif ffrwd.

Cyfarfod â rhagor o staff yr adran a chael sgwrs gyda'i gwr sy' n dysgu addysg gorfforol yn y coleg.

Roedd merched yn fwy tebygol o fod wedi cael eu camdrin yn gorfforol pan yn blant na bechgyn.

Mae rygbin parhau cyn galeted, gorfforol a di-gyfaddawd ag a fu erioed petaech ond yn ystyried nifer y pwythau a wnïwyd yn Twickenham yn ystod y gêm rhwng Lloegr a De Affrica.

Y profiad oedd fy mod yn teimlo'n gorfforol (a pheidied neb â chredu mai pen chwyddedig oedd gennyf am fy mod yn credu o ddifrif fy mod wedi cyflawni camp) .

Y tîm rygbi yn ymarfer, ar timau pêl-fasged a chyn-fyfyriwr enwoca Adran Addysg Gorfforol y coleg, Lynn Davies, yn paratoi i gyflwynor noson.

yn teimlo'n gorfforol, fel y dywedais, fy mod ddwywaith fy maint arferol, ac yn feddiannol ar ddwywaith fy nerth.

Fe ddeuair arolygwyr heibio yn flynyddol i fygwth caur lle, meddai Syd Aaron, prif-ddarlithydd addysg gorfforol yr hen goleg hyfforddi pan oeddwn i yno, ddiwedd y pum-degau a dechraur chwe-degau.

Does neb sy'n edrych arno'i hun fel bod yn gorfforol annibynnol isio dibynnu ar bethau fel cadeiriau olwyn, calipr, fframiau Zimmer, baglau neu ffyn cerdded, felly fe allen nhw benderfynu eu defnyddio gyn lleied a phosibl neu eu gwrthod yn llwyr.

Ar diweddar Dewi Bebb yn dod o Goleg y Drindod i wneud diploma trydedd flwyddyn mewn addysg gorfforol.

'Roedd India'n sioc i'r system, mae'n rhaid cyfadde - yn ymenyddol, yn emosiynol, ac yn gorfforol.

Roedd hyn yn llawer llai poenus i'r coesau a phawb yn mynd yn gyflymach - i fyny ac i lawr dros y 'maguls', aros yn llai aml a gwirioneddol fwynhau'r profiad nes ein bod yn teimlo ar ben y byd - yn gorfforol a llythrennol.

Erbyn hyn esblygodd yr Adran Addysg Gorfforol yn Ysgol Chwaraeon, Addysg Gorfforol a Hamdden.

Noson i ddathlu hanner canrif o addysg gorfforol ddechreuodd fel Coleg Hyfforddi Dinas Caerdydd - clwstwr o hen gutiaur fyddin ar Barc y Waun.

Gwaith, cyweithiau, gwybodaeth ynghylch y Gerddorfa a chefndir i rai o'r chwaraewyr fydd peth o'r cynnwys ar safwe sy'n bennaf ar gyfer ysgolion er mwyn hyrwyddo mwy o gysylltiad â Cherddorfa'r BBC â hithau'n methu bod yn bresennol yn gorfforol bob amser ledled y wlad.

Dylai arolygwyr nodi unrhyw enghreifftiau lle ni ellir addysgu rhannau o'r cwricwlwm yn effeithiol, er enghraifft, gwyddoniaeth neu addysg gorfforol, oherwydd nad oes digon o fannau arbenigol neu am eu bod yn amhriodol.

Bu cryn bwysau arno i chwarae golff, ond mynnai mai gêm i bobl heb ei gwneud hi oedd honno, gêm lonydd barchus i athrawon a gweithwyr banc, pobl heb lawer o egni meddyliol heb sôn am gorfforol.

Dyw'r mesur ddim yn farw eto, a ry'n ni'n benderfynol o godi ymwybyddiaeth pobol o'r hyn sy'n digwydd." Dywedodd bod yr agwedd negyddol hon yn ymestyn at bobol gyda phob mathau o anabledd, nid anabledd gorfforol yn unig.

'Ydach chi' Bron na theimlai Lisa ei fod yn ei chyffwrdd yn ymosod arni'n gorfforol.